Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arbenigwr Perfformiad ADY - Cyfnod Cynradd (dyddiad cau: 08/05/25)

Soulbury 6-9. Mae Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant y Gyfarwyddiaeth Addysg (ALNIT) wedi sicrhau cyllid grant i benodi athro sydd â chymwysterau priodol i ddarparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad i ADY Cynradd i sicrhau cynhwysiant a chodi canlyniadau a darpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Teitl y swydd: Arbenigwr Perfformiad ADY (Cyfnod Cynradd)
Rhif y swydd: ED.69740
Cyflog: Soulbury 6-9
Disgrifiad swydd: Arbenigwr Perfformiad ADY - Cyfnod Cynradd (ED.69740) Disgrifiad Swydd (PDF, 260 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.69740


Dyddiad cau: 11.45pm, 8 Mai 2025

Rhagor o wybodaeth

Byddai'n ofynnol i'r deiliad swydd hefyd gefnogi'r Arbenigwr Perfformiad ADY Arweiniol a chydweithwyr ALNIT eraill i ddatblygu canllawiau ac adnoddau, darparu hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb a darparu cymorth rheolaidd i ysgolion fel y gallant adeiladu eu gallu i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r swydd a hysbysebir uchod yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2026, felly mae'r rôl yn cael ei hysbysebu i ddechrau fel cyfle secondiad o fewn Awdurdod Lleol Abertawe. Y tu hwnt i'r dyddiad hwn, bydd parhad o'r swydd hon yn destun cyllid.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â  Grace Thomas: grace.thomas@swansea.gov.uk

Os hoffech wneud cais, ceisiwch gymeradwyaeth eich Pennaeth cyn cwblhau'r cais am swydd atodedig a dychwelyd i Grace erbyn y dyddiad cau isod.

Dyddiad Cau:     8 Mai 2025

Cyfweliadau:     20 a 21 Mai 2025

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Ebrill 2025