Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Bryn Tawe: Athro Addysg Gorfforol

(Dyddiad cau: 12/05/25 at 12pm). Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Rydym yn chwilio am athro i ddarparu profiadau cyfoethog Addysg Gorfforol yn yr ysgol. Bydd cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu ar draws pob cyfnod allweddol, gan gyfrannu at gyrsiau TGAU a Safon Uwch Addysg Gorfforol a chyrsiau Chwaraeon galwedigaethol.

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â'r ffocws ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â'r medrau hanfodol ar gyfer sicrhau dyfodol llwyddiannus.

Rydym yn gallu cynnig:

  • y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.
  • y cyfle i weithio o fewn Adran Addysg Gorfforol a MDaPh Iechyd a Lles, sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio'n agos er mwyn sicrhau llwyddiant a lles pob disgybl o bob gallu. 
  • y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion. 
  • y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa pellach o fewn yr adran a'r ysgol. 

Dyddiad Cau:           Dydd Llun 12fed o Fai 2025 12y.p 
Cyfweliadau:            i'w cadarnhau
Graddfa cyflog:        Prif raddfa gyflog
Telerau'r swydd:     cytundeb llawn amser (ystyrir geisiadau rhan amser 0.8 i ymgeiswyr addas)

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Am ffurflen gais neu fanylion pellach, cysylltwch â Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol ar y rhifau isod neu drwy e-bost:
LeonardE18@hwbcymru.net

Bydd angen dychwelyd y ffurflen gais drwy e-bost yn uniongyrchol at Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol erbyn y dyddiad cau uchod.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Ebrill 2025