Uwch Swyddog Cynllunio (dyddiad cau: 14/05/25)
£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Rydym yn recriwtio Uwch Swyddog Cynllunio yn ein Tîm Rheoli Datblygu i fod yn rhan o'r tîm sy'n darparu lefelau digynsail o adfywio a datblygu yn Abertawe.
Teitl y swydd: Uwch Swyddog Cynllunio
Rhif y swydd: PL.62397-V3
Cyflog: £39,513 - £43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Uwch Swyddog Cynllunio (PL.62397-V3) Disgrifiad swydd (PDF, 218 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.62397-V3
Dyddiad cau: 11.45pm, 14 Mai 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae Abertawe yn profi lefelau digynsail o fuddsoddiad adfywio a datblygu. Mae prosiectau adfywio mawr dan arweiniad y Cyngor yng Nghanol Abertawe Mae Cam 1, Ffordd y Brenin a Glan yr Afon Tawe eisoes ar y gweill. Bydd prosiectau trawsnewidiol eraill yn dilyn wrth i'r sector preifat gydnabod y cyfleoedd datblygu a mewnfuddsoddi yn Abertawe. Allwedd i lwyddiant parhaus ein hadfywio dinas yw rôl ein gwasanaeth cynllunio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am brosesu ceisiadau cynllunio a cheisiadau eraill, apelio a gwaith gorfodi mewn ardal benodol o Ddinas a Sir Abertawe. Bydd gofyn i chi ddelio yn uniongyrchol â'r cyhoedd, darpar ymgeiswyr a'u hasiantau i ddarparu gwasanaeth cynllunio effeithlon, effeithiol a chyfeillgar i gwsmeriaid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig a llawn cymhelliant, sy'n gallu cwrdd â dyddiadau cau a helpu'r adran i gyrraedd targedau perfformiad.
Mae'r swydd yn llawn amser, yn barhaol ac mae wedi'i lleoli yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe gyda threfniadau gweithio ystwyth
Am drafodaeth anffurfiol ar y swyddi hyn, cysylltwch ag Ian Davies, Rheoli Datblygu Ffôn: 07970 680549
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol