Dadansoddwr Datrysiad Oracle Fusion (dyddiad cau: 20/05/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Mae Gwasanaethau Digidol yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig i ymgymryd â rôl Dadansoddwr Oracle Fusion. Ar hyn o bryd mae hon yn secondiad/rôl dros dro tan 31 Mawrth 2026.
Teitl y swydd: Dadansoddwr Datrysiad Oracle Fusion
Rhif y swydd: CS.73684
Cyflog: £35,235 - £38,626 py flwyddyn
Disgrifiad swydd: Dadansoddwr Datrysiad Oracle Fusion (CS.73684) Disgrifiad Swydd (PDF, 250 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Apply online now for post CS.73684
Dyddiad cau: 11.45pm, 20 Mai 2025
Rhagor o wybodaeth
Rydym yn edrych i recriwtio Dadansoddwr Oracle Fusion i ymuno â'n tîm Oracle i ddarparu cefnogaeth i holl ddefnyddwyr system o fewn y Cyngor i ddatrys ymholiadau a materion gyda Fusion.
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth ac arweiniad i ddefnyddwyr ac aelodau eraill o'r tîm gyda phob agwedd dechnegol ar y rôl. Byddwch hefyd yn gweithio fel rhan o'r tîm sy'n cefnogi'r cymwysiadau Fusion yn y cwmwl. Byddwch yn gweithio gyda chyflenwyr cymorth trydydd parti y cyngor i ddatrys problemau a rheoli escalations.
Bydd hon yn rôl heriol i rywun sydd â sgiliau gweinyddol a sefydliadol rhagorol.
Mae hwn yn gyfle i rywun ddechrau gyrfa mewn digidol gyda hyfforddiant llawn ar system fyd-enwog.
Byddwch yn rhan o dîm deinamig ac yn cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd ac ennill profiad mewn amgylchedd digidol.
Ar hyn o bryd mae hon yn secondiad/rôl dros dro tan 31 Mawrth 2026
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Nicki Harris Nicki.Harris@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol