Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheolwr Prosiect Gwasanaethau Oedolion (dyddiad cau: 16/05/25)

£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Mae'r Tîm Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion yn ceisio recriwtio unigolyn llawn cymhelliant, trefnus a rhagweithiol i ymuno â'u tîm. Yn y rôl gyffrous a heriol hon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli cyflawni prosiectau ar draws rhaglenni Trawsnewid a Gwella yr adran.

Teitl y swydd: Rheolwr Prosiect Gwasanaethau i Oedolion
Rhif y swydd: SS.66942-V1
Cyflog: £39,513 - £43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Rheolwr Prosiect Gwasanaethau Oedolion (SS.66942-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 250 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.66942-V1


Dyddiad cau: 11.45pm, 16 Mai 2025

Rhagor o wybodaeth

Fel Rheolwr Prosiect Tîm Trawsnewid Gwasanaethau i Oedolion, bydd gennych gylch gwaith amrywiol gan weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws yr holl dimau Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a sefydliadau partner ehangach i ddatblygu, cydlynu ac arwain ar gyflawni ystod eang o brosiectau o ddydd i ddydd. 

Byddwch yn gyfrifol am fonitro a chyflawni'n llwyddiannus yn erbyn targedau y cytunwyd arnynt gan ddefnyddio eich dealltwriaeth a'ch profiad o fethodoleg rheoli prosiectau a'ch sgiliau ymgysylltu a chyfathrebu rhagorol gyda'r holl randdeiliaid.
 
Byddwch yn hynod hyblyg, hunan-gymhelliant, ac fel arloeswr profedig yn mwynhau cael eich herio. Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog ac yn cael eich gyrru i helpu i wneud Gwasanaethau Oedolion yn Abertawe'r gorau y gall fod.
 
Os hoffech drafod y rôl yn fanylach, cysylltwch â Lucy Friday (PO Adult Services Transformation) Lucy.Friday@swansea.gov.uk 
        
Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mai 2025