Uwch Swyddog Marchnata (dyddiad cau: 21/05/25)
£35,325 - £38,626 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Marchnata angerddol a phrofiadol i arwain ymgyrchoedd proffil uchel a thîm dawnus gyda Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe yn ystod cyfnod mamolaeth o 12 mis. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth lunio'r gwaith o hyrwyddo rhai o ddigwyddiadau a lleoliadau diwylliannol mwyaf y ddinas.
Teitl y swydd: Uwch Swyddog Marchnata
Rhif y swydd: PL.3374-V1
Cyflog: £35,325 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Uwch Swyddog Marchnata PL.3374-V1 (PDF, 256 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.3374-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 21 Mai 2025
Mwy o wybodaeth
Mae'n amser cyffrous i fyw a gweithio yn Abertawe, gyda buddsoddiad ac adfywio mawr yn parhau i lunio'r ddinas. Gan ddenu dros 4.7 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, mae gan Abertawe sîn ddiwylliannol ffyniannus, gyda lleoliadau a digwyddiadau mawr yn croesawu artistiaid a chynulleidfaoedd byd-eang.
Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Marchnata profiadol, brwdfrydig a chreadigol i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth am gyfnod o 12 mis. Byddwch yn arwain grŵp sy'n perfformio'n dda o fewn ein swyddogaeth Rheoli a Marchnata Cyrchfan (DM&M), gan gyflwyno ymgyrchoedd effaith uchel sy'n cefnogi lleoliadau diwylliannol a digwyddiadau blaenllaw gan gynnwys Sioe Awyr Cymru, 10k Bae Abertawe, Ironman 70.3, Parêd y Nadolig, Theatr Awyr Agored, a mwy.
Byddwch yn dod â syniadau ffres, angerdd personol a phroffesiynol ar gyfer marchnata, a'r gallu i reoli ymgyrchoedd integredig ar draws sianeli digidol a thraddodiadol
Fel goruchwyliwr tîm, byddwch hefyd yn darparu mewnbwn strategol, yn meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid, ac yn sicrhau bod ymgyrchoedd yn cyrraedd targedau ariannol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Mae sgiliau cyfathrebu, arwain a chynllunio ymgyrchoedd cryf yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i weithio'n gyflym mewn amgylchedd cefnogol.
Dyma'ch cyfle i fod yn rhan o stori lwyddiant diwylliannol Abertawe - a helpu i lunio'r hyn sydd nesaf.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.