Ysgol Gyfun Penyrheol : Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Ymddygiad, Arweiniad a Chymorth)
(dyddiad cau: 05/06/25)(3pm) Mae angen Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 brwdfrydig, gofalgar ac ymroddedig arnom i weithio ar draws ein darpariaeth lles Pawb a'n darpariaeth ymddygiad Thrive newydd. Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth sydd gennych y sgiliau a'r rhinweddau personol ar ei gyfer, cwblhewch gais.
Ysgol Gyfun Penyrheol
Heol Pontarddulais, Gorseinon, Abertawe SA4 4FG
(Cymysg) (872 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16)
Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.swansea.gov.uk
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)
Dylid dychwelyd ffurflenni cais i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at tajobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk
Dyddiad Cau: 3:00 pm Dydd Iau 5 Mehefin 2025
Rhestr fer: Dydd Llun 9 Mehefin 2025
Cyfweliadau: Dydd Iau 12 Mehefin 2025
Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr am y dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd. Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Mawrth 10 Mehefin gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.
Datganiad Diogelu
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb" ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.