Archifydd (dyddiad cau: 11/06/25)
£31,067 - £34,314 y flwyddyn pro rata. Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn awyddus i recriwtio archifydd brwdfrydig a gwybodus â chymwysterau proffesiynol i ymuno â thîm bach o staff proffesiynol a pharabroffesiynol, (parhaol, rhan-amser, 4 diwrnod yr wythnos)
Teitl y swydd: Archifydd
Rhif y swydd: PL.3005
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Archifydd PL.3005 (PDF, 250 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.3005
Dyddiad cau: 11.45pm, 11 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Byddwch yn meddu ar gymhwyster ôl-raddedig achrededig mewn Gweinyddu Archifau.
Daw'r swydd wag hon ar adeg gyffrous a heriol i'r Gwasanaeth Archifau, sydd i fod i symud i adeiladau newydd yng nghanol dinas Abertawe yn ystod 2025. Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth helpu gyda symud y gwasanaeth yn gorfforol ac wrth sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau i'n cymuned.
Mae'r swydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe ar hyn o bryd ond bydd gofyn i chi weithio yn ein pwynt gwasanaeth yng Nghastell-nedd ar adegau.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.