Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Gorfodi Sifil (dyddiad cau: 11/06/25)

£25,584 - £26,409 y flwyddyn. Swyddog Gorfodi Sifil

Teitl y swydd: Swyddog Gorfodi Sifil
Rhif y swydd:  PL.0746
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Swyddog Gorfodi Sifil PL.0746 (PDF, 263 KB) 
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.0746

Dyddiad cau: 11.45pm, 11 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Gyngor Abertawe'r pwerau i orfodi rheoliadau parcio ledled ardal Abertawe. Fel Swyddog Gorfodi Sifil, byddwch yn patrolio'r strydoedd a'r meysydd parcio mewn gwisg, i adnabod cerbydau sydd wedi'u parcio yn groes i'r rheoliadau parcio. Byddwch yn cario cyfrifiadur llaw, sy'n cynhyrchu Hysbysiadau Codi Cosb. 
  
Rhaid i chi fod yn llawn cymhelliant, yn gwbl gymwys ac yn hunanhyderus. Mae angen trwydded yrru lawn ar gyfer y rôl hon. Mae'n rhaid i chi allu gweithio ar eich pen eich hun a gweithio'n dda o fewn tîm, bod yn gorfforol heini ac yn gallu cerdded o leiaf 5 -10 milltir y dydd ym mhob tywydd.
 

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.


 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mai 2025