Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Gymunedol Sea View : Swydd Addysgu Llawn Amser Dros Dro

(dyddiad cau: 06/06/25)(3pm) Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi athro ysbrydoledig, ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'r tîm staff gweithgar a chydweithio i adeiladu ar nifer o lwyddiannau presennol yr ysgol. Bydd y swyddi yn rhai dros dro ar gyfer dau dymor yn y lle cyntaf.

Ysgol Gynradd Gymunedol Sea View
Heol Creidiol, Mayhill, Abertawe SA1 6TZ
01792 650703
seaview.community.school@swansea-edunet.gov.uk
www.seaview.school

A school at the heart of the community / Ysgol at gallon y gymuned
Caring, sharing and learning together / Yn gofalu, rhannu a dysgu gyda'n gilydd

Pennaeth: Mrs Julie Dunn - BA (Ed), M.Ed, NPQH
Pennaeth Dros Dro: Mr Glyn Tiltman - BA (ED), NPQH

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Sea View yn ysgol fywiog, hapus, groesawgar a hollol gynhwysol a leolir ym Mayhill, Abertawe gyda staff a Chorff Llywodraethu ymroddedig iawn. Rydym yn ymfalchïo yn ein cyflawniadau hyd yma ac yn ceisio parhau i ddatblygu a gwella'r rhain yn y blynyddoedd i ddod.  

Mae'r swydd yn gofyn am:-

  • Ymarferydd dosbarth rhagorol gyda disgwyliadau uchel a gwybodaeth gadarn am addysgeg ac athroniaeth addysgu a dysgu a sut mae plant yn dysgu
  • Dealltwriaeth gadarn o sut i ddatblygu gwersi/gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar ddysgu ac asesu ar gyfer dysgu
  • Ymgeisydd da, sy'n gallu ysbrydoli, cefnogi a herio disgyblion wrth weithio'n dda fel rhan o'n tîm
  • Cymhwysedd TGCh er mwyn cyflwyno'r cwricwlwm gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf
  • Y gallu i arwain mentrau a datblygiadau 
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
  • Dealltwriaeth glir o gynhwysiant
  • Rhwyun sy'n drefnus ac yn frwdfrydig iawn
  • Person arloesol sy'n cyfrannu at welliant yr ysgol gyfan
  • Y gallu i arwain a gweithio fel rhan o dîm
  • Dealltwriaeth o rôl rhieni yn y bartneriaeth addysg

Gall yr ysgol ddarparu:-

  • Ysgol greadigol, gynhwysol gyda phlant hapus sydd eisiau dysgu 
  • Cefnogaeth gan dîm o staff egnïol a llywodraethwyr sy'n gweithio'n galed iawn
  • Amgylchedd addysgu a dysgu gwych, dan do ac allan sy'n meithrin ac yn cefnogi ein disgyblion
  • Cyfleoedd datblygu proffesiynol i gefnogi eich taith fel ymarferydd rhagorol

Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau a'ch llythyr cais drwy e-bost at seaview.community.school@swansea-edunet.gov.uk

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

MANYLEB PERSON - Ysgol Gynradd Gymunedol Sea View - Addysgu (PDF, 165 KB)

Dyddiad cau: Dydd Gwener 06  Mehefin 2025 (3.00pm)
Llunio rhestr fer: Dydd Llun 09 Mehefin 2025  
Taith o amgylch yr ysgol (ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer): Dydd Iau 12 Mehefin 2025 
Cyfweliadau: Dydd Llun 16 Mehefin 2025 
Dechrau Swydd: Dydd Llun 1 Medi 2025 

Bydd angen Gwiriad Cofnod Troseddol Gwell ar gyfer y swydd hon.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. 
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mai 2025