Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymorth Dydd 1-1 (dyddiad cau: 12/06/25)

£25,584 - £26,409 y flwyddyn pro rata. Mae Gwasanaeth Dydd Anghenion Arbennig Birchgrove yn chwilio am berson cymhellol, brwdfrydig a gofalgar i weithio o fewn Gwasanaeth Dydd sefydledig. (Swydd rhan-amser 18 awr yr wythnos)

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd
Rhif y swydd:  SS.73733
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Gweithiwr Cymorth Dydd SS.73733 (PDF, 256 KB)  
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd SS.73733

Dyddiad cau: 11.45pm, 12 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar sail 1 - 1 i gefnogi defnyddiwr gwasanaeth ag anghenion iechyd cymhleth. Efallai y bydd angen i chi hefyd gefnogi unigolion eraill o fewn y gwasanaeth sydd ag anghenion cymhleth.
Byddai profiad o Ymdrin â Llaw, Gofal Personol, Epilepsi a Gweinyddu Meddyginiaeth yn hanfodol, ond gellir rhoi hyfforddiant. 

Mae parodrwydd i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i ddilyn ystod o weithgareddau dyddiol er mwyn iddynt gyflawni eu canlyniadau cytunedig yn hanfodol. Mae NVQ/QCF 2/3 mewn Gofal, neu barodrwydd i weithio tuag at y cymwysterau hyn, yn hanfodol.
Byddech yn derbyn, sefydlu, goruchwyliaeth rheolaidd, a disgwylir i chi ymgymryd ag ystod o gyfleoedd hyfforddi a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y gwasanaeth. Bydd gofyn i chi feddu ar drwydded yrru lawn. Mae disgwyliad hefyd y gallai fod yn ofynnol i chi weithio mewn gwasanaethau eraill

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Lorraine Howells neu Steve Cook ar 01792 321522
 

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mai 2025