Toglo gwelededd dewislen symudol

Syrfëwr y Prosiect (dyddiad cau: 30/06/25)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn (Gradd 8|25-29|), Llawn amser a Pharhaol. Rydym yn chwilio am Syrfëwr Prosiect brwdfrydig ac ymroddedig i arbenigo mewn cynnal a chadw stoc bresennol y Cyngor, adeiladau cyhoeddus ac ysgolion yn bennaf.

Teitl y swydd: Syrfëwr y Prosiect
Rhif y swydd: PL.67287
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Syrfëwr y Prosiect (PL.67287) Disgrifiad Swydd (PDF, 275 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67287

Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Gyda phiblinell enfawr ac ehangu o waith wedi'i raglennu ymhell i'r degawd nesaf, credwn fod yr amser yn iawn i ddod â mwy o waith cyn ac ôl-gontract yn fewnol.  Byddwch yn rhan o dîm dylunio cryf sy'n darparu ystod eang a chyffrous o gynlluniau adnewyddu ac adeiladu newydd fel ysgolion, tai, prosiectau treftadaeth a masnachol a byddwch ar flaen y gad yn yr ymgyrch i ddatgarboneiddio ar draws portffolio y cyngor.

Yn ddelfrydol, byddwch yn syrfëwr prosiect profiadol gyda chryfder dylunio, sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol ynghyd â gwybodaeth adeiladu dda, sydd â chymhwyster proffesiynol perthnasol a bod gennych brofiad o wneud gwaith dylunio manwl ar draws ystod o brosiectau adeiladu.

Prif ffocws y swydd fydd gweithio gyda nifer o brif gontractwyr, isgontractwyr, rhanddeiliaid, cynghorwyr a thenantiaid i sicrhau bod prosiectau'n cael eu dylunio, eu rheoli a'u cwblhau'n llwyddiannus o fewn amserlenni a chyllideb benodol.

Byddwch yn cael eich gwobrwyo â chyflog cystadleuol yn ogystal â chynllun pensiwn rhagorol, cyfleoedd a buddion eraill fel gweithio hyblyg.

Felly, os ydych chi'n broffesiynol ymroddedig, sy'n gallu ysbrydoli eraill a chyflawni canlyniadau mesuradwy, sy'n ffynnu ar heriau newydd a phortffolio amrywiol ac sy'n barod am ddechrau newydd mewn rôl a all ddarparu lefel uchel o foddhad swydd, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Am sgwrs anffurfiol ac i drafod y cyfle cyffrous hwn ymhellach, cysylltwch â Rheolwr Cynnal a Chadw Adeiladau Nathan Grove ar 07796 275594 neu Nathan.grove@swansea.gov.uk

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mehefin 2025