Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe: Athro Arbenigol Iaith Lleferydd a Chyfathrebu

(Dyddiad cau: 23/06/25 at 12pm). Rydym yn awyddus i gyflogi Athro Arbenigol Arweiniol llawn amser, ar gyfer cyfnod secondiad, i gefnogi disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Abertawe sydd ag Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu (SLCN) ac Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).

Fe'ch lleolir yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac yn arwain tîm o ddau Gynorthwyydd Addysgu yn ogystal â gweithio ar y cyd â Therapydd Iaith a Lleferydd cymwys. Mae gan Abertawe hanes rhagorol o gefnogi disgyblion ag  anghenion cyfathrebu eang trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Er eich lleolir yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, bydd y dyletswyddau'n cynnwys cefnogi disgyblion mewn ysgolion prif ffrwd, addysgu disgyblion sy'n cael eu cludo i mewn i Fryn Tawe yn yr adnodd Iaith a Lleferydd a chefnogi gallu ysgolion cyfrwng Cymraeg i reoli anghenion disgyblion yn gyson.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt gymhwyster addysgu priodol; mae sgiliau, profiad a chymwysterau addysgu perthnasol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol Ehangach yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol. Fe ddarperir hyfforddiant addas. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Cefnogi Dysgu, o fewn Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ALl i gefnogi ysgolion, plant a phobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr. (Am fanylion llawnach y rôl, gweler y fanyleb ar gyfer y swydd.) 

Bydd angen i ddarpar ymgeiswyr dderbyn cadarhad gan eich cyflogwr / pennaeth presennol ar gyfer secondiad a ddau dymor i ddechrau, fel cyfnod o ddatblygiad proffesiynol pellach.  

Dylid cyflwyno mynegiant o ddiddordeb yn y lle cyntaf yn amlygu eich addasrwydd ar gyfer y rôl, heb fod yn fwy nag un tudalen A4 i reolwraig busnes ac is-reolwraig busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonard a Miss Lynwen Mathews. Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r swydd, cysylltwch gyda Mrs Leonard a Miss Mathews ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Dyddiad Cau mynegiant o ddiddordeb: Dydd Llun 23ain o Fehefin 2025 am 12:00y.h.
Graddfa gyflog: Prif raddfa gyflog; CAD 2B (i ymgeisydd â'r profiad perthnasol)
Telerau'r swydd: Llawn amser, Cyfnod Secondiad
Dechrau: 01/09/25

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Mehefin 2025