Cydlynydd Cynorthwyol Plant i Gerddwyr (dyddiad cau: 03/07/25)
£24,790 - £25,183 pro rata y flwyddyn. Mae'r swydd hon yn gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026. 30 awr yr wythnos a 39 wythnos (yn ystod y tymor yn unig). Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad amser tymor yn unig os yw dechrau cyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.
Teitl y swydd: Cydlynydd Cynorthwyol Plant i Gerddwyr
Rhif y swydd: PL.66357
Cyflog: £24,790 - £25,183 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cydlynydd Cynorthwyol Plant i Gerddwyr (PL.66357) Disgrifiad Swydd (PDF, 246 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.66357
Dyddiad cau: 11.45pm, 7 Gorffennaf 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn ceisio penodi Cydlynydd Cynorthwyol Plant Cerddwyr brwdfrydig a chymhellol i ymuno â'u tîm. Mae'r swydd hon i ddarparu cynllun hyfforddi plant cerddwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru i blant 5-7 oed yn Abertawe.
Dylech fod â sgiliau cyfathrebu rhagorol, meddu ar drwydded ddeifio lawn a bod yn berchennog car.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol