Ysgol Gynradd Clydach - Rheolwr Meithrin (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4)
(dyddiad cau: 27/06/25 am 12pm). Gradd 6 SCP 11 (£25,979 a £27,269) y flwyddyn (pro rata ac yn amodol ar addasiad yn ystod y tymor) 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Clydach yn dymuno penodi rheolwr Meithrinfa i redeg y dosbarth Meithrin a chynnal ymyriadau ar draws yr ysgol.
Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Clydach yn dymuno penodi cynorthwyydd addysgu rhagorol i swydd rheolwr y Feithrinfa ac i redeg ymyriadau ar draws yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n tîm ar sail amser llawn dros dro; bydd y rôl am 27.5 awr yr wythnos ac fe'i cynigir fel swydd dros dro am flwyddyn i ddechrau 1 Medi 2025. Mae'r swydd yn amodol ar addasiad yn ystod y tymor yn unig os yw'r dyddiad penodi ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.
We are looking for someone who:
- Yn gallu arwain ar gynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu yn ystafell ddosbarth y Feithrinfa. Yn ogystal, arwain ar arsylwi disgyblion, cofnodi ac adrodd ar gyflawniad, cynnydd a datblygiad disgyblion o fewn y dosbarth Meithrin.
- Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r cwricwlwm nas cyngelir a sut I fod yn oedolyn galluogol.
- Gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, rhieni a staff
- Profiad o weithio mewn ysgol, yn ddelfrydol yn yr adran Dysgu Sylfaen a dosbarthiadau hŷn
- Yn gallu gweithio gyda disgybl ar gyfer ymyrraeth 1:1 a hefyd disgyblion mewn grwpiau bach i'w helpu i gyflawni eu nodau addysgol
- Profiad o redeg cymorth bugeiliol (e.e. ELSA, Thrive)
- Yn gallu cynnig ffyrdd creadigol o ennyn diddordeb disgyblion yn eu haddysg
- Yn dosturiol, yn ddeallus ac yn gynhwysol
- Gallu ennyn brwdfrydedd, ysgogi ac ennyn diddordeb plant ym mhob maes dysgu
- Yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach cymuned yr ysgol
Yn gyfnewid, gallwn gynnig y canlynol i chi:
- Y cyfle i weithio fel rhan o dîm ymroddedig, cyfeillgar a chefnogol iawn
- Cyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau eich hun a chyfrannu at welliant ysgol gyfan
- Mynediad at DPP o ansawdd uchel
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu lles plant ac yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4
Gradd 6 SCP 11 (£25,979 a £27,269) y flwyddyn (pro rata ac yn amodol ar addasiad yn ystod y tymor) 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)
Anfonwch ffurflen gais wedi'i chwblhau i gyfeiriad e-bost yr ysgol (Clydach.Primary@swansea-edunet.gov.uk) FAO Mr Ben Jones erbyn 12pm ddydd Gwener 27 Mehefin 2025.
Bydd y rhestr fer yn digwydd ddydd Gwener 27 Mehefin, gyda chyfweliad yn ystod wythnos 30 Mehefin.
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol