Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill: Rheolwr Dechrau'n Deg Lefel 2

(dyddiad cau: 09/07/25 am 3pm). Mae hon yn swydd Gradd 8, 37 awr yr wythnos, 40 wythnos y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Little Gems Flying Start yn Ysgol Gymunedol Townhill.

Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill
Townhill Road
Townhill
Abertawe 
SA1 6PT 
Ffôn: 01792 516370
Pennaeth - Mr Peter Owen

Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cefnogaeth i blant cyn-ysgol wedi'u targedu a'u teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd amddifadedd dynodedig. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.

Rydym yn edrych i benodi Rheolwr Gofal Plant Dechrau'n Deg ardderchog i reoli'r lleoliad. Bydd angen cymwysterau perthnasol a phrofiad o reoli mewn lleoliadau gofal plant arnoch yn ogystal â llawer o frwdfrydedd ac angerdd i gefnogi plant a theuluoedd yn y gymuned. Byddwch yn gyfrifol am reoli a threfniadaeth weithredol y lleoliad gofal plant a byddwch yn rheoli ac yn cefnogi'r tîm gofal plant Dechrau'n Deg er mwyn helpu i gynnal y safonau uchel sydd eisoes wedi'u sefydlu.  

Edrychwch ar y ddolen ar gyfer y cymwysterau perthnasol Arweinydd / rheolwr / person â gofal Dechrau'n Deg | Gofal Cymdeithasol Cymru

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill - Rheolwr Dechrau'n Deg Lefel 2 - Disgrifiad Swydd (PDF, 278 KB)

Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau at Mr Peter Owen yng nghyfeiriad yr ysgol uchod neu drwy e-bost owenp34@hwbcymru.net 

Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys a geirdaon addas.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw -                    Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2025 am 3 pm 
Bydd y rhestr fer yn cael ei gynnal ar -                  Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar -                  Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2025

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Mehefin 2025