Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Swyddog Gofal Preswyl X 3 (dyddiad cau: 05/09/25)

£28,142 - £31,022 pro rata y flwyddyn. Rhan amser (28 awr yr wythnos) Swyddog Gofal Preswyl yn Nhŷ Cila. Gwasanaeth gwyliau byr preswyl sy'n cefnogi oedolion ag anableddau corfforol a dysgu.

Teitl y swydd: Swyddog Gofal Preswyl
Rhif y swydd: SS.2020-V1
Cyflog: £28,142 - £31,022 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Gofal Preswyl (SS.2020-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 291 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.2020-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 5 Medi 2025

Rhagor o wybodaeth

Ydych chi'n chwilio am gyfle cyffrous o fewn gofal cymdeithasol?
Gofynnwch y cwestiynau hyn i chi'ch hun?

  • Allwch chi gyfathrebu'n dda ag eraill?
  • Ydych chi wedi cael profiad o gefnogi pobl ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol?
  • Allwch chi gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol?
  • Ydych chi'n gynnes, cyfeillgar, gofalgar a pherson sydd ag agwedd gall-wneud?
  • Ydych chi'n hoffi bod gyda phobl?
  • Ydych chi'n teimlo ymdeimlad o gyflawniad pan fyddwch chi'n helpu eraill?
  • Ydych chi ac yn mwynhau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
  • Allwch chi gymryd cyfarwyddyd gan y rheolwr?
  • Ydych chi wedi cael profiad o reoli tîm?
  • Allwch chi arwain gydag ymagwedd gref a chefnogol?
  • Ydych chi'n berson pobl sydd â'r gallu i gefnogi a meithrin staff i gyflawni nod cyffredin?
  • Allwch chi weithio o dan bwysau?
  • Oes gennych chi ddull hyblyg ac ymroddedig?
  • Ydych chi'n byw yng Nghilâi neu gerllaw?
  • Ydych chi'n berchennog / gyrrwr car gyda thrwydded yrru lawn?
  • A oes gennych y cymhwyster perthnasol QCF-5 neu gyfwerth?
  • Allwch chi gadw at bolisïau a gweithdrefnau'r cyngor?

Mae cyfle wedi codi i RCO - 28 awr yr wythnos, weithio fel rhan o'r tîm staff yn Nhŷ Cila, darparu gwasanaeth i oedolion - gwasanaeth seibiant byr.
Rydym yn edrych i roi cyfle i'r person iawn weithio gyda ni.

  • Mae'r gwasanaeth yn cefnogi hyd at 12 unigolyn sy'n dod i aros am seibiant byr.
  • Rydym yn cefnogi unigolion ag anghenion gofal a chymorth, ac yn helpu pobl i gwrdd â'u canlyniadau personol, gan sicrhau mai'r hyn sy'n bwysig i'r person yw pwysicaf bob amser.
  • Rydym yn gweithio'n agos gyda theuluoedd a gofalwyr i sicrhau ein bod yn deall pob person a bod pob arhosiad seibiant yn brofiad hwyliog a phleserus.

Dyma sut y gallwn eich helpu i wneud gwaith gwych ac ychydig o bethau a allai fod yn bwysig i chi.

  • Byddwch yn rhan o dîm deinamig 
  • Byddwch yn cael eich cefnogi i ymgymryd â'r hyfforddiant perthnasol, i ennill dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau i ymgymryd â'r rôl.
  • Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth, arweiniad, cefnogaeth ac anogaeth rheolaidd yn y rôl.
  • Byddwch yn gweithio 4 diwrnod yr wythnos ar sail rota - i'w gytuno gyda chi, gan gynnwys shifftiau bore, prynhawn, nosifftiau nos, penwythnosau a shifftiau gŵyl y banc.
  • Mae manteision eraill yn cynnwys cyfradd ardderchog o dâl gyda gwelliannau cyflog.

A yw hyn yn swnio fel rhywbeth a fyddai'n dda i chi? Os felly, mae'n bryd gwneud cais ar-lein.

Os hoffech drafod y rôl cyn i chi wneud cais, cysylltwch â'r Rheolwr -Tracy Rees ar - 01792-516360

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Awst 2025