Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Contractio (dyddiad cau: 16/09/25)

£46,142 - £50,269 y flwyddyn. Ydych chi'n gomisiynydd medrus a phrofiadol o wasanaethau gofal cymdeithasol? Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddod yn rhan o Wasanaethau Oedolion yn Abertawe a chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod oedolion sy'n agored i niwed yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau annibynnol a bodlon.

Teitl y swydd: Swyddog Contractio
Rhif y swydd: SS.68404
Cyflog: £46,142 - £50,269 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Contractio (SS.68404) Disgrifiad Swydd (PDF, 287 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.68404

Dyddiad cau: 11.45pm, 16 Medi 2025

Rhagor o wybodaeth

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm comisiynu sefydledig a chefnogol sy'n falch o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i alluogi'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi i fyw eu bywydau gorau.

Cyfrifoldebau allweddol

Bydd deiliad y swydd:

  • bod yn gyfrifol am arwain ar brosiectau comisiynu penodol o fewn Gwasanaethau Oedolion,
  • rheoli ystod o gontractau gyda darparwyr gwasanaethau allweddol,
  • cefnogi arweinwyr comisiynu eraill ar draws y tîm ar ystod o brosiectau, a
  • bod yn ofynnol i weithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid a phartneriaid.

Beth ydyn ni'n chwilio amdano?

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

  • yn deall Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus,
  • gallu arwain wrth gyflawni prosiectau comisiynu penodol,
  • gallu gweithio'n annibynnol a bodloni dyddiadau cau ac amcanion,
  • yn gallu gweithio gydag ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid,
  • yn gallu dehongli a chyflwyno data a gwybodaeth gymhleth,
  • yn ymrwymedig i ddysgu parhaus, a 
  • yn angerddol am weithio ar y cyd ac yn greadigol.

Mae'r Tîm Comisiynu yn gwahodd pobl sydd â diddordeb mewn trafodaeth anffurfiol i gysylltu drwy: Peter.field@swansea.gov.uk neu Christopher.francis@swansea.gov.uk

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Medi 2025