Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe: Cymorth TG Technegydd

(Dyddiad cau: 23/09/25 at 3pm). Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Technegydd Cymorth TG i swydd llawn amser (37 awr yr wythnos am 39 wythnos, Gradd 5 ) yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.

Mae hwn yn gytundeb blwyddyn yn y lle cyntaf, ond mae potensial cryf i ymestyn hwn i gytundeb parhaol. Byddai ymgeisydd addas yn un sydd â phrofiad blaenorol a'r potensial i gynyddu cyfrifoldebau yn yr ysgol.
Mae'r ysgol wedi elwa o fuddsoddiad helaeth mewn adnoddau gyda datblygiadau cyffrous ar y gorwel sy'n cynnwys adeiladau newydd yn y blynyddoedd nesaf.

Mae'r Adran TG yn adran brysur sy'n cefnogi pob agwedd ar ddefnydd TGCh yr ysgol a thechnolegau cysylltiedig. Bydd cyfrifoldebau eraill yn cynnwys gosod a ffurfweddu offer a datrysiadau newydd ynghyd ag uwchraddio systemau presennol, cefnogi'r platfform dysgu cenedlaethol (HWB), a darparu hyfforddiant sylfaenol yn ôl gofynion staff addysgu a chymorth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau cefnogaeth tîm staff agos ac effeithiol. Bydd ef / hi yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr TGCh, a Phennaeth Cymhwysedd TGCh / Digidol yn ogystal â thîm effeithiol o staff cymorth a gweinyddol yn yr ysgol. Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng Cymraeg yn hanfodol yn y swydd hon.

Os hoffech gael mwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth Cynorthwyol Mrs Nerys Vaughan.

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Proses ymgeisio
Gallwch wneud cais am y swydd hon trwy ffurflen gais a llythyr yn amlinellu'ch sgiliau a'ch profiad sy'n berthnasol i'r swydd hon. Gallwch gynnwys eich profiadau perthnasol yn ogystal â'ch gweledigaeth am y ffyrdd y gallech chi gyfrannu at fywyd yr ysgol fel cymuned ddysgu.
Dyddiad cau: 23/09/2025 3 pm
Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosib ar ôl apwyntio.

Swydd Ddisgrifiad Cynorthwyydd Dysgu Digidol 
 
Rheolwr Llinell: NV - Cyfrifoldeb am gymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm 
 
Prif ddyletswyddau:

  • Cefnogi'r cydlynydd TGCh yn ei waith dyddiol i sicrhau bod systemau a cyfarpar cyfrifiadurol yr ysgol yn weithredol ar bob adeg. 
  • Cefnogi'r arweinydd cymhwysedd digidol gyda datblygiadau cwricwlaidd a thechnegol. 
  • Trefniadau dyddiol HWB. 
  • Bod yn gyfrifol am 'wefannau cymdeithasol' a diweddaru wefan yr ysgol 
  • Sicrhau bod y cyfrifiadur / sain yn iawn ar gyfer gwasanaethau  
  • Bod 'Ar-Alwad' i gefnogi athrawon 
  • Sicrhau bod gwybodaeth ar y Plasma yn ddyddiol 
  • Cynorthwyo'r Arweinwyr Digidol. 
  • Gallu golygu fideos, ffilmiau pontio, clipiau ayyb 
  • Gwirio a pharatoi'r gliniaduron 
  • Adnewyddu 'aps' ar yr i-pads 
  • Gweinyddu 'Dangos Fy Ngwaith Cartref' 

Cyfrifoldeb ar gyfer ffilmio gwersi. 
 
Graddfa Cyflog: Gradd 5
Cytundeb: Blwyddyn yn unig  
Dyddiad dechrau: Cyn gynted a phosib

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Medi 2025