Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynorthwy-ydd Gweinyddol (dyddiad cau: 30/09/25)

£26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn. Mae Maes Derw (PRU) yn ceisio penodi Cynorthwyydd Gweinyddol i ymuno â thîm gweithgar sy'n cefnogi Maes Derw a'r Gwasanaeth Dysgwyr Bregus ehangach. Tymor + 2 wythnos, 37 awr yr wythnos. Bydd y swydd ar gael i ddechrau cyn gynted â phosibl. mae'n ddarostyngedig i addasiad yn ystod y tymor yn unig, os yw dechrau'r gyflogaeth y tu allan i ddyddiad dechrau a gorffen y flwyddyn academaidd (1 Medi/31 Awst)

Teitl y swydd: Cynorthwyydd Gweinyddol
Rhif y swydd: ED.73565
Cyflog: £26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynorthwyydd Gweinyddol (ED.73565) Disgrifiad Swydd (PDF, 290 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
Addysg

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.73565

Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Medi 2025

Rhagor o wybodaeth

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Cynorthwy-ydd Gweinyddol yn Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe. Mae Maes Derw yn cefnogi addysg dros 158 o ddisgyblion o bob rhan o ysgolion yn Abertawe rhwng 5-16 oed. Mae gan bob un o'r disgyblion hyn anawsterau iechyd meddwl, gorbryder neu gymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (SEBD) ac felly, mae profiad diweddar a pherthnasol o weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn hanfodol. 

Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli ym Maes Derw ond bydd yn darparu cymorth gweinyddol i'r Gwasanaeth Dysgwyr Bregus ehangach. 

Mae pob swydd yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwell.

Bydd y swydd ar gael i ddechrau cyn gynted â phosibl. 

Gan fod y swydd hon yn ystod y tymor +2 wythnos, mae'n destun addasiad tymor yn unig, os yw dechrau'r gyflogaeth y tu allan i ddyddiad dechrau a gorffen y flwyddyn academaidd (1 Medi/31 Awst).

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Medi 2025