Swyddog Lles Addysg (dyddiad cau: 03/10/25)
£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Mae cyfle secondiad cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Lles Addysg (EWS). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â thîm sydd wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o ansawdd uchel i ysgolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallant elwa o'r cyfleoedd addysgol a ddarperir iddynt. Mae'r swydd hon dros dro tan 31 Mawrth 2026.
Teitl y swydd: Swyddog Lles Addysg
Rhif y swydd: ED.0090-V1
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Lles Addysg (ED.0090-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 300 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.0090-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 3 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r EWS yn edrych i benodi unigolion hynod drefnus, brwdfrydig a chymhellol i ymuno â'u tîm tan 31 Mawrth 2026.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i weithio gyda llawer o wahanol adrannau o'r gyfarwyddiaeth yn ogystal â gwasanaethau cyngor ehangach ac asiantaethau allanol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm croesawgar, cynhwysol a gweithgar sy'n cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr proffesiynol medrus ac angerddol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Bod â phrofiad o gefnogi ymgysylltu addysgol
- Bod yn rhywun sy'n gweithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm
- Meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol
Yn gyfnewid, gallwn gynnig i chi:
- Cyfle i fod yn rhan o dîm profiadol, llawn cymhelliant a chefnogol
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol.
Bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn destun datgeliad DBS Gwell.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Simon.Burman-Rees@Swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol