Cynorthwyydd Domestig (Rhyddhad) (dyddiad cau: 08/10/25)
£25,185 pro rata y flwyddyn. Cynorthwyydd Domestig Rhan-Amser Rhyddhad yn ofynnol i weithio yn Nhŷ Borfa, Port Einon yn cynorthwyo yn y gegin a glanhau'r Ganolfan.
Teitl y swydd: Cynorthwyydd Domestig (Rhyddhad)
Rhif y swydd: SS.71020
Cyflog: £25,185 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: SS.71020 Cynorthwyydd Domestig Rhyddhad Disgrifiad Swydd (PDF, 239 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.71020
Dyddiad cau: 11.45pm, 8 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae cyfle i gael Cynorthwyydd Domestig Rhan-Amser Rhyddhad yng Nghanolfannau Gweithgareddau Gŵyr ym Mhort Einon. Byddwch yn gyfrifol am baratoi gwelyau, ystafelloedd gwely, ac ystafelloedd ategol ar gyfer gwesteion sy'n ymweld. Hefyd i gynorthwyo gyda dyletswyddau cegin cyffredinol, gan gynorthwyo'r cogydd i ddarparu prydau bwyd i ymwelwyr â'r canolfannau gweithgareddau yn ôl yr angen. Mae'r swydd yn gofyn am waith shifft a dyletswyddau gyda'r nos os oes angen yn y gegin. Bydd gofyn i chi weithio yn Nhŷ'r Borfa, Porth Einon neu Ganolfan Rhosili.
Mae'r swydd hon yn cael ei gynnig fel swydd rhyddhad i gwmpasu gwyliau a chyfnodau prysur yn ôl yr angen. Mae'n hanfodol y gallwch yrru a chael eich cludiant eich hun oherwydd lleoliad y Canolfannau, Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Karen Hearn ar 07971 861376.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol