Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth (dyddiad cau: 09/10/25)
£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cyllid y Gwasanaeth Plant a'r Teulu i weithio fel swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth sy'n cwmpasu maes Comisiynu ac Adnoddau.
Teitl y swydd: Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth
Rhif y swydd: SS.73173
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth (SS.73173) Disgrifiad Swydd (PDF, 282 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73173
Dyddiad cau: 11.45pm, 9 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Fel swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth, bydd gofyn i chi ddarparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyfer rheoli cyllid y Gyfarwyddiaeth yn strategol a rheoli amrywiaeth o becynnau gwaith fel rhan o'r Tîm Cyllid Comisiynu ac Adnoddau.
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol medrus a brwdfrydig sy'n ymroddedig iawn ac yn hunan-gymhellol. Mae'r gwasanaeth y byddwch chi'n gweithio ynddo yn amgylchedd prysur a heriol ond gwerth chweil i weithio ynddo.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau ariannol / rhifiadol rhagorol ac yn ddelfrydol meddu ar gymhwyster cyfrifyddu/cyllid. Mae meddu ar sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno cryf a sgiliau dadansoddol datblygedig iawn yn hanfodol. Ochr yn ochr â dangos gallu i weithio'n annibynnol ac yr un mor effeithiol fel rhan o dîm ehangach.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd hon neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Joanne Hooper, Arweinydd Tîm Cyllid a Datblygu ar 01792 636000.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol