Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt: Cynorthwyydd Addysgu

(dyddiad cau: 02/10/25 am 10am). Prif ffrwd / STF. Angen dechrau cyn gynted â phosibl. 20 awr, 4 diwrnod yr wythnos (8.55am i 3.05pm) o ddydd Llun i ddydd Iau. 39 wythnos y flwyddyn Pwynt Graddfa 5-6 (Gradd 4) Cyflog £25,583 - £25,989 y flwyddyn (pro rata ac yn amodol ar addasiad amser tymor). Mae'r swydd hon dros dro am flwyddyn yn y lle cyntaf.

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt
Y Glebe
Llandeilo Ferwallt
Abertawe
SA3 3JP
bcs@swansea-edunet.gov.uk

Mae llywodraethwyr yr ysgol gyfle cyfartal uchel hon yn dymuno penodi aelod o staff cymwys priodol sy'n dymuno chwarae rhan lawn yn natblygiad Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt fel Ysgol Gymunedol i lenwi'r swydd wag.

Gofynnir i ymgeiswyr sydd â diddordeb lenwi'r ffurflen gais berthnasol gan gynnwys llythyr sy'n amlinellu eich profiad a'ch diddordeb yn y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau, 2 Hydref 2025 am 10.00am
Rhestr fer: Dydd Gwener, 3ydd Hydref 2025 
Dyddiad y cyfweliad: Dydd Mercher, 8 Hydref 2025

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Gellir lawrlwytho ffurflen gais o www.eteach.com neu www.bishopstonschool.com neu fel arall maent ar gael o swyddfa'r ysgol.

Gellir dychwelyd ffurflenni drwy e-bost neu drwy'r post - gwnewch yn siŵr bod y tâl post priodol yn cael ei dalu neu ei anfon ymlaen at BoxM1@hwbcymru.net  

Bydd y swydd yn destun Gwiriad Datgelu Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2025