Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Pentrechwyth: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg

(dyddiad cau: 06/10/25 am 3pm). Llawn amser a Dros Dro tan fis Mawrth 2026. Cyflog: Gradd 5 SCP 17-20 (£26,403.00, £27,254.00 pro rata y flwyddyn). 18 awr yr wythnos a 40 wythnos y flwyddyn.

Ladybirds Dechrau'n Deg
Ysgol Gynradd Pentrechwyth
Heol Bonymaen
Pentrechwyth, Abertawe
SA1 7AP
Pennaeth: Miss AJ Christopherson
Rheolwr Gofal Plant: Miss Sarah Poole
Ebost: Pooles21@hwbcymru.net
Ffôn: Ysgol - 01792 653186 / Dechrau'n Deg - 01792 341485

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Ladybirds, lleoliad Dechrau'n Deg Pentrechwyth. 

Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cymorth i blant cyn-ysgol a'u teuluoedd sydd wedi'u targedu, sy'n byw mewn ardaloedd penodol o amddifadedd. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.

Rydym yn edrych i benodi Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg rhagorol i gefnogi'r Rheolwr a'r dirprwy Dechrau'n Deg i ddarparu darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yn ein lleoliad Dechrau'n Deg. Bydd arnoch angen cymwysterau perthnasol, sgiliau llythrennedd o safon uchel a phrofiad blaenorol o ddarparu darpariaeth gofal plant i blant o dan 3 oed. Bydd angen i chi hefyd weithio'n effeithiol fel rhan o dîm a dangos brwdfrydedd ac angerdd dros gefnogi plant a'u teuluoedd fel rhan o Dechrau'n Deg ac ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Ysgol Gynradd Pentrechwyth - Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg - Disgrifiad swydd (PDF, 303 KB)

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Mae ffurflenni cais ar wefan cyngor Abertawe, gwiriwch y cymwysterau perthnasol. Mae'r ddolen ar gyfer y fframwaith cymwysterau yn https://socialcare.wales/qualification-framework

Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u llenwi drwy'r post neu drwy electronig drwy e-bost. Nodir cyfeiriad post yr ysgol a chyfeiriadau e-bost uchod. Os ydych chi'n dychwelyd drwy'r post, gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi'r tâl post cywir gan y gallai postio anghywir olygu nad yw'ch cais yn ein cyrraedd. 

Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys a geirdaon addas.

Y dyddiad cau: Dydd Llun 6 Hydref 2025 am 3 pm

Rhestr Fer:  Dydd Mawrth 7 Hydref 2025

Cynhelir cyfweliadau ddydd Mercher 15 Hydref 2025

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2025