Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Tre Uchaf: STF Cynorthwyydd Addysgu Gradd 4 (Lefel 2)

(dyddiad cau: 08/10/25 am 12 hanner dydd). Mae'r contract yn Dros Dro tan Tymor yr Haf 2026 yn y lle cyntaf. Cyfathrebu Cymdeithasol ac Anawsterau Dysgu STF. 27.5 awr yr wythnos. Cyflog cyfredol: £25,583 - £25,989 pro rata y flwyddyn. (Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad tymor yn unig os yw dechrau'r gyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd). Dyddiad Cychwyn: I'w gadarnhau.

Ysgol Gynradd Tre Uchaf
Heol Cae Ty Newydd
Tre Uchaf
Abertawe
SA4 6BQ
Ffôn: (01792) 892682
Gwefan: https://www.Treuchafprimary.co.uk
E-bost: TreUchaf.primaryschool@swansea-edunet.gov.uk
Pennaeth: Mrs L Davies BA (Ed), NPQH

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Tre Uchaf yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Gradd 4 rhagorol i weithio yn ein cyfleuster Addysgu arbenigol (STF).

Dylai ymgeiswyr fod yn gymwys i NVQ Lefel 2 neu gyfwerth a bod â phrofiad blaenorol o weithio ym maes addysg gynradd.  Mae profiad o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol yn hanfodol ynghyd â pharodrwydd i ddysgu gan ymarferwyr profiadol.  

Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd: -

  • Ymroddedig ac angerddol am ddysgu ac addysgu.
  • Chwaraewr tîm ardderchog gydag agwedd gadarnhaol.
  • Empathi i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a chefnogaeth iddynt.
  • Yn gallu meithrin, ysbrydoli ac ysgogi disgyblion.
  • Yn gallu gweithio fel rhan o dîm i gyflawni'r gorau i bob disgybl.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad datgelu uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn dechrau cyflogaeth. 

Gellir cael ffurflenni cais, disgrifiad swydd a manyleb person trwy wefan yr ysgol www.TreUchafprimary.co.uk, e-bost yn Tre Uchaf.primaryschool@swansea-edunet.gov.uk neu o'r brif swyddfa.

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Dylid dychwelyd Ffurflenni Cais wedi'u llenwi i'r ysgol neu drwy e-bost i'r cyfeiriadau uchod.

Dyddiad cau: 8 Hydref 2025 am 12 hanner dydd

Rhestr fer: I'w gadarnhau

Cyfweliad: I'w gadarnhau

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Hydref 2025