Ysgol Gynradd yr Hafod: Gweithiwr Cymorth Ychwanegol Dechrau'n Deg (dau dymor)
(dyddiad cau: 27/10/25 am 3 pm). £26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn (Gradd 5) Rhan Amser (18 awr yr wythnos, 40 wythnos y flwyddyn).
Ysgol Gynradd yr Hafod
Stryd Odo
Hafod
Abertawe
SA1 2LT
Ffôn: 01792 461356
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Dechrau'n Deg 'Hafod Rainbows'. Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cymorth i blant cyn-ysgol a'u teuluoedd sydd wedi'u targedu, sy'n byw mewn ardaloedd penodol o amddifadedd. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.
Rydym yn edrych i benodi ASW i gefnogi'r Rheolwr a'r Dirprwy Dechrau'n Deg i ddarparu darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yn ein lleoliad Dechrau'n Deg. Bydd arnoch angen cymwysterau perthnasol, sgiliau llythrennedd o safon uchel a phrofiad blaenorol o ddarparu darpariaeth gofal plant i blant o dan 3 oed. Bydd angen i chi hefyd weithio'n effeithiol fel rhan o dîm a dangos brwdfrydedd ac angerdd dros gefnogi plant a'u teuluoedd fel rhan o Dechrau'n Deg ac ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Gwiriwch fod gennych y cymwysterau perthnasol drwy wirio dolen gwefan Gofal Cymdeithasol: https://socialcare.wales/qualifications-funding/qualification-framework/job-roles/flying-start
Mae'r rhain yn cynnwys;
- Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru a Gogledd Iwerddon) QCF
- Diploma Estynedig CACHE mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant; Tystysgrif Addysg Uwch y Brifysgol Agored (Tystysgrif AU) (FHEQ Lefel 4) mewn Ymarfer Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar
- Tystysgrif/Diploma Cenedlaethol EDEXCEL BTEC Lefel 3
- Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD)
Ysgol Gynradd Hafod - Gweithiwr Cymorth Ychwanegol Dechrau'n Deg - Disgrifiad Swydd (PDF, 318 KB)
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)
Dyddiad cau: 27 Hydref 2025 am 3 pm
Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u llenwi at CollinsD@hwbcymru.net
Os ydych chi'n dychwelyd drwy'r post, gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi'r tâl post cywir gan y gallai postio anghywir olygu nad yw'ch cais yn ein cyrraedd.
Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys.
Cyswllt:
Donna Collins (Rheolwr Dechrau'n Deg) ar 01792 461356 am sgwrs anffurfiol neu e-bost CollinsD@hwbcymru.net
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol