Toglo gwelededd dewislen symudol

Dechrau Disglair Tirdeunaw: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg

(dyddiad cau: 22/10/25 am 3pm). 1 x 35 awr yr wythnos; 40 wythnos y flwyddyn. £26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn (Gradd 5). Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd yn siaradwr Cymraeg ac yn gallu ysgrifennu dogfennaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Dechrau Disglair yn ceisio penodi gweithiwr gofal plant brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'u tîm i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel i blant yn y gymuned leol rhwng 2-3 oed. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd yn siarad Cymraeg a'i fod yn gallu ysgrifennu dogfennau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymhwyster lefel 3 mewn gofal plant a bod â phrofiad ôl-gymhwyso i'w ystyried ar gyfer y swydd. Ceir rhestr o gymwysterau gofal plant a dderbynnir ar https://socialcare.wales/qualifications-funding/qualification-framework/job-roles/flying-start 
Mae'r rhain yn cynnwys;

  • Diploma lefel 3 mewn FFCCH gofal, dysgu a datblygiad plant (Cymru a Gogledd Iwerddon); 
  • Diploma estynedig CACHE mewn gofal, dysgu a datblygiad plant;
  • Tystysgrif addysg uwch y Brifysgol Agored (CertHE) (FHEQ lefel 4) mewn ymarfer proffesiynol y blynyddoedd cynnar
  • Tystysgrif Genedlaethol/Diploma lefel 3 EDEXCEL BTEC; 
  • Gofal, dysgu a datblygiad plant (CCLD)

1 x 35 awr yr wythnos; 40 wythnos y flwyddyn; Gweithiwr gofal plant yn Dechrau Disglair Tirdeunaw.

Dyddiad cau: 22 Hydref 2025 am 3pm

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Dechrau Disglair Tirdeunaw - Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg - Disgrifiad Swydd (PDF, 276 KB)

Mae'r swydd yn destun gwiriad DBS manwl.

I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catherine Goulden ar 01792 700468

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Hydref 2025