Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 22/10/25)
£36,363 - £39,862 y flwyddyn (Gradd 8) / £40,777 - £45,091 y flwyddyn (Gradd 9). Mae Gradd 8 ar gyfer newydd gymhwyso. Mae swydd Gweithiwr Cymdeithasol llawn amser (Parhaol) 37 awr yr wythnos wedi codi o fewn Tîm Iechyd Meddwl y Person Hŷn. Rhaid i ymgeiswyr fod â Chymhwyster Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol a bod wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.0579
Cyflog: Gradd 8 £36,363 - £39,862y flwyddyn / Gradd 9 £40,777 - £45,091 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymdeithasol (SS.0579) Disgrifiad Swydd (PDF, 287 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.0579
Dyddiad cau: 11.45pm, 22 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad o weithio mewn amgylchedd aml-asiantaeth / rhyngddisgyblaethol a gwybodaeth am weithrediad y prif asiantaethau sy'n ymwneud â'r maes gofal hwn.
Bydd y swydd yn cynnwys gwaith mewn ysbyty a lleoliad cymunedol. Yn ddelfrydol, byddai gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ymgymryd â'r holl ddyletswyddau angenrheidiol fel Gweithiwr Cymdeithasol fel y'i diffinnir mewn deddfwriaeth berthnasol (e.e. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014, Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Iechyd Meddwl 1983).
Yn ogystal, byddai gwybodaeth a phrofiad yn rôl y Cydlynydd Gofal mewn perthynas â'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) a'r Cymhwyster Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn ddymunol. Neu bydd disgwyliad i'r Ymgeisydd llwyddiannus weithio tuag at y cymhwyster AMHP.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol