Gweithiwr Arweiniol Cymorth Cynnar (dyddiad cau: 24/10/25)
£32,061 - £35,412 pro rata y flwyddyn. Hysbyseb allanol am swydd o fewn Hybiau Cymorth Cynnar ar gyfer swydd Gweithiwr Arweiniol yn Hwb Cymorth Cynnar Townhill i weithio gyda phlant, teuluoedd ac YP yng Nghymuned Townhill. Mae hon yn swydd ran-amser (30 awr yr wythnos), a gynigir ar sail cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028.
Teitl y swydd: Gweithiwr Arweiniol Cymorth Cynnar
Rhif swydd: SS.65274-V2
Cyflog: £32,061 - £35,412 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Arweiniol Cymorth Cynnar (SS.65274-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 332 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.65274-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 24 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Hwb Cymorth Cynnar Townhill ar gyfer swydd gweithiwr Cymorth Cynnar Arweiniol sy'n cefnogi'n benodol deuluoedd yn ardal Townhill, Mayhill a'r Gors yn Abertawe.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r Gwasanaeth Cymorth Cynnar a bydd yn dod yn rhan o strwythur canolfan amrywiol ac amlddisgyblaethol sy'n gyfrifol am ddiwallu anghenion lles plant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd wedi'u bregus ac mewn perygl.
Os ydych chi'n teimlo bod gennych y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sy'n addas ar gyfer y swydd hon, cysylltwch ag Anna Griffiths Rheolwr Tîm Hwb Cymorth Cynnar Townhill Anna.griffiths@swansea.gov.uk Ffon: 01792 635400
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol