Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cymorth Gweithredol Rheng Flaen (dyddiad cau: 28/10/25)

£26,403 - £27,254 y flwyddyn. Mae hon yn swydd dros dro am 12 mis. Rhaid i'r Ymgeisydd fod yn ddibynadwy, hyblyg, brwdfrydig a rhaid iddo fod yn brofiadol mewn gweithrediadau glanhau. Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr feddu ar safon dda o sgiliau TG.

Teitl y swydd: Swyddog Cymorth Gweithredol Rheng Flaen
Rhif Swydd: PL.68411-V1
Cyflog: £26,403 - £27,254 y flwyddyn
Disgrifiad swyddSwyddog cymorth gwasanaeth gweithredol rheng flaen (PL.68411-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 284 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.68411-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 28 Hydref 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae tîm Cyfleusterau/Glanhau Cyngor Abertawe yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Gwasanaethau Gweithredol Rheng Flaen. 

Rhaid i'r Ymgeisydd fod yn ddibynadwy, hyblyg, brwdfrydig a rhaid iddo fod yn brofiadol mewn gweithrediadau glanhau. Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr feddu ar safon dda o sgiliau TG.

Bydd dyletswyddau dyddiol yn cynnwys cynorthwyo'r swyddog gweithrediadau glanhau gyda rhedeg safleoedd anaddysgol y Cyngor o ddydd i ddydd sydd wedi'u lleoli ledled Abertawe. Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys prosesu Taflenni Amser a Gorchmynion, goruchwylio staff, sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal a gofynion deddfwriaethol yn cael eu cadw.

Bydd disgwyl y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cwmpasu rolau Glanhau a Rheoli Cyfleusterau (Darperir hyfforddiant llawn).

Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd yn berchennog / gyrrwr car.

Mae hon yn swydd dros dro am 12 mis.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2025