Toglo gwelededd dewislen symudol

Domestig (dyddiad cau: 28/10/25)

£25,185 pro rata y flwyddyn. Aelod o'r tîm staff domestig - 18.25 awr yr wythnos yng Nghartref Gofal Preswyl Tŷ Waunarlwydd.

Teitl y swydd: Domestig
Rhif y swydd: SS.2864-V1
Cyflog: £25,185 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Domestig (SS.2864-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 291 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.2864-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 28 Hydref 2025

Rhagor o wybodaeth

1) Ai chi yw'r person rydyn ni wedi bod yn chwilio amdano?
2) Allech chi fod yn rhan o'n tîm llwyddiannus a chyfeillgar?

  • Ydych chi'n berson llawn cymhelliant a brwdfrydig?
  • Ydych chi'n ymfalchïo yn eich amgylchedd?
  • Allech chi rannu eich gwybodaeth a'ch profiad? 
  • Ydych chi'n berson pobl ac ydych chi'n mwynhau gweithio gydag eraill?
  • A yw helpu i wneud pobl yn hapus yn bwysig i chi?
  • Ydych chi'n berson caredig, gofalgar/cyfeillgar a meddylgar?

Ydych chi'n meddwl bod hyn yn swnio fel chi? Yna daliwch ati a darllenwch ymlaen, efallai mai dyma'r swydd i chi!

Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio yng nghartref gofal preswyl Tŷ Waunarlwydd yn Waunarlwydd, fel aelod o dîm staff domestig, 18.25 awr yr wythnos.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi pobl hŷn, sydd ag anghenion gofal a chymorth a dementia, sy'n byw yn y cartref, neu sy'n dod i gael arhosiad byr yn y cartref.

Mae'r safon uchaf o gymorth ym mhob ardal yn y cartref yn bwysicaf, gan gynnwys y gefnogaeth a ddarperir gan aelodau ein tîm staff domestig, a fydd yn helpu i sicrhau bod y cartref yn cael ei gadw'n lân bob dydd.

Oes gennych chi ddiddordeb ac yn meddwl am wneud cais? Mae hwnna'n wych!
Beth allwn ni ei gynnig i chi?

  • Dyma sut y byddwn yn eich helpu i wneud gwaith gwych a dim ond ychydig o bethau a allai fod yn bwysig i chi.
  • Byddwch yn rhan o dîm o brofiadol a newydd. 
  • Byddwch yn cael eich cefnogi i wneud yr hyfforddiant cywir, gyda'r gefnogaeth gywir ac ennill y wybodaeth a'r sgiliau dealltwriaeth berthnasol ar gyfer y rôl.
  • Byddwch yn derbyn sefydlu trylwyr a thâl sy'n cynnwys gweithio ochr yn ochr ag eraill o fewn y tîm a fydd yn eich helpu i ddysgu am y rôl.
  • Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad rheolaidd i'ch helpu ar hyd y ffordd, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i chi yn eich rôl newydd.
  • Mae manteision eraill yn cynnwys y gyfradd gyflog ardderchog gyda gwelliannau ynghlwm ar gyfer gweithio ar nos benwythnos a gŵyl y banc, yn ogystal â hawl gwyliau blynyddol ardderchog.
  • Bydd gennych batrymau Shifts ar sail rota, y gellir eu trafod gyda chi i ganiatáu i chi gael cydbwysedd bywyd gwaith da.

I gael sgwrs am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â Donna Cuke, y Rheolwr a fydd yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o'r hyn y mae'r rôl yn ei gynnwys, neu drwy e-bost Donna.cuke@swansea.gov.uk neu dros y ffôn ar 01792 872255

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Hydref 2025