Prynwr (dyddiad cau: 30/10/25)
£28,142 - £31,022 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n tîm prynu mewn Adran Gwasanaethau Adeiladu prysur iawn sydd wedi'i lleoli yn y depo yn Heol y Gors, Cwmbwrla, Abertawe
Teitl y swydd: Prynwr
Rhif y swydd: PL.0055-V1
Cyflog: £28,142 - £31,022 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Prynwr (PL.0055-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 268 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0055-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fewnbynnu a chodi archebion gyda chyflenwyr trwy system oracl y cyngor ei hun, cwblhau trafodion cerdyn prynu a sicrhau bod yr holl waith papur yn gyfredol.
Cysylltu â chyflenwyr ar gyfer danfoniadau safle gyda'n rheolwyr safle ein hunain.
Defnyddio a hyrwyddo gofynion electronig i bob adran cleientiaid.
Cysylltu â'r adran cyfrifon taladwy ar gyfer talu anfonebau, gweithio o fewn rheolau gweithdrefn Contract cyfredol yr awdurdod a chyfyngiadau ariannol.
Have good office-based housekeeping and admin skills.
Mae'r rôl swydd yn gofyn am brofiad TG rhagorol a sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da. Bydd yr ymgeisydd yn ymwneud yn helaeth â gwasanaethu cwsmeriaid o wahanol grefftau felly mae deall anghenion cwsmeriaid yn hollbwysig.
Oriau gwaith yw 8am-4pm Llun-Iau a 8am-3:30pm Gwener.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio i Gyngor Abertawe ym maes Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol