Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 30/10/25)

£36,363 - £39,862 y flwyddyn (Gradd 8) / £40,777 - £45,091 y flwyddyn (Gradd 9). Mae Gradd 8 ar gyfer newydd gymhwyso. Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol 5 diwrnod llawn amser a pharhaol o fewn y Tîm Anabledd Dysgu Cymunedol.

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.496-V2
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn (Gradd 8) / £40,777 - £45,091 y flwyddyn (Gradd 9)
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymdeithasol (SS.496-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 295 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.496-V2

Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Hydref 2025

Rhagor o wybodaeth

Dylai ymgeiswyr fod â chymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'r rôl yn cynnwys rheoli llwyth achosion prysur ac amrywiol, cwblhau asesiadau a chynlluniau gofal a chymorth, ceisiadau CHC a cheisiadau Llys Gwarchod.

Weithiau bydd angen trefnu ymchwiliadau nad ydynt yn droseddol ar gyfer Oedolion mewn Perygl. 

Bydd angen i chi allu gweithio fel rhan o Dîm Anabledd Dysgu Cymunedol Amlddisgyblaethol, sy'n ymdrechu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl a hyrwyddo eu lles. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth, rhieni a gofalwyr i sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb.

Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar sgiliau asesu anghenion a rheoli risg a gallu cyfathrebu'n effeithiol ag oedolion ag anableddau dysgu, gofalwyr a darparwyr gwasanaethau gofal.  Byddai'n well profiad o weithio gydag unigolion sydd ag anabledd dysgu, er nad yw'n hanfodol, cyn belled â bod y sgiliau proffesiynol a gyflawnwyd yn drosglwyddadwy.

Byddwch yn gweithio mewn tîm deinamig sy'n gweithio'n rheolaidd gyda rhai sefyllfaoedd heriol ac anodd. Rydym yn disgwyl y bydd yr holl staff yn cefnogi ei gilydd trwy'r amseroedd hyn i gael canlyniadau cadarnhaol i bawb sy'n cymryd rhan. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y swydd benodol hon, cysylltwch â Lynne Smith am ragor o wybodaeth ar 01792 614100

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Hydref 2025