Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Adolygu - Cymorth Gwaith Cymdeithasol X 6 (dyddiad cau: 30/10/25)

£28,142 - £31,022 y flwyddyn. Swyddog Adolygu Gwaith Cymdeithasol - Ydych chi'n ymrwymedig i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person a gwella bywydau? Ymunwch â'n tîm Gwasanaethau Oedolion fel Swyddog Adolygu Gwaith Cymdeithasol, lle bydd eich gwaith yn cefnogi unigolion yn uniongyrchol i fyw gydag urddas, annibyniaeth a dewis.

Teitl y swydd: Swyddog Adolygu - Cymorth Gwaith Cymdeithasol X 6
Rhif y swydd: SS.73814
Cyflog: £28,142 - £31,022 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Adolygu – Cymorth gwaith cymdeithasol (SS.73814) Disgrifiad Swydd (PDF, 300 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73814

Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Hydref 2025

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol tosturiol, trefnus a rhagweithiol i gynnal adolygiadau blynyddol statudol o achosion nad ydynt yn gymhleth. Byddwch yn gweithio'n agos gydag unigolion, gofalwyr, darparwyr gwasanaeth, a chydweithwyr i sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth yn bodloni canlyniadau personol yn effeithiol.

P'un a ydych yn ymuno â'r Tîm Adolygu ac Ailasesu neu'r Tîm Anableddau Dysgu, bydd eich rôl yn cynnwys:

  • Rheoli llwyth achosion o adolygiadau nad ydynt yn gymhleth o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
  • Ymweld ag unigolion yn eu cartrefi neu leoliadau gofal i asesu ac adolygu anghenion
  • Cydweithio â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod gofal yn parhau i fod yn briodol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Nodi newidiadau mewn angen a phryderon cynyddol i'ch goruchwyliwr

Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o dîm cefnogol a blaengar, lle bydd eich cyfraniad yn helpu i lunio gofal cymdeithasol oedolion o ansawdd uchel.

Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:

  • Pecyn cyflog a budd-daliadau cystadleuol. 
  • Gweithio hybrid hyblyg. 
  • Gwyliau blynyddol hael. 
  • Cyfle i ddatblygu'n broffesiynol trwy dîm cefnogol a chyfleoedd dysgu parhaus. 
  • Cyfleoedd i weithio mewn rôl lle gallwch gael effaith wirioneddol ar unigolion a gwasanaethau yng nghymuned Abertawe. 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon, neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jackie Turner, Arweinydd Tîm drwy e-bostio Jackie.turner@swansea.gov.uk ar gyfer y Tîm Adolygu ac Ailasesu neu Phil Davies Arweinydd Tîm drwy e-bostio Phil.Davies@swansea.gov.uk ar gyfer y Tîm Anableddau Dysgu

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Hydref 2025