Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cymdogaeth (dyddiad cau: 06/11/25)

£32,061 - £35,412 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gwasanaeth Tai i weithio fel Swyddog Cymdogaeth mewn Swyddfa Tai Ardal. Mae hon yn rôl sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, sy'n cefnogi, helpu a chynghori tenantiaid a phreswylwyr ar ystod o faterion sy'n gysylltiedig â thenantiaeth tai a rheoli ystadau.

Teitl y swydd: Swyddog Cymdogaeth
Rhif y swydd: PL.0018-V1
Cyflog: £32,061- £35,412 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cymdogaeth (PL.0018-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 275 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0018-V1


Dyddiad cau: 11.45pm, 6 Tachwedd 2025


Mwy o wybodaeth

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm hunan-gymhellol, ymroddedig a dibynadwy i weithio mewn Tîm Swyddfa Tai Ardal brysur. Bydd angen i chi gydbwyso agweddau cymorth a chyngor y swydd gydag elfennau o orfodi mewn perthynas â thelerau ac amodau'r contract meddiannaeth, bydd hyn yn cynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Byddwch yn gyfrifol am ddyrannu a gosod eiddo gwag. Mae'r gallu i amldasgio a threfnu eich blaenoriaethau gwaith eich hun yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Bydd lefel uchel o ryngweithio â chwsmeriaid sy'n cynnwys ymweld â phobl yn eu cartrefi yn ogystal â gweld pobl yn y swyddfa, a gall ymddygiad unigolion weithiau fod yn heriol.

Blaenoriaeth i'r Gwasanaeth Tai yw cefnogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaeth. Bydd disgwyl i chi fod yn wyneb y gymuned, bod allan bob dydd ar eich clyti, ymweld â phobl yn eu cartrefi, a chefnogi cydweithwyr ar eu clytiau. Mae cyswllt yn elfen allweddol o'r rôl, a bydd disgwyl i chi weithio gydag ystod o bartneriaid; bydd hyn yn cynnwys cydweithwyr o fewn y Gwasanaeth Tai, adrannau eraill y Cyngor a phartneriaid allanol fel yr Heddlu.

Mae gwybodaeth bresennol am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn fanteisiol ond nid yn hanfodol, fodd bynnag, mae'n rhaid i chi allu dilyn a dehongli canllawiau a chael dull cyson o ran sut maent yn cael eu cymhwyso. 

Mae hwn yn gyfle gwych i berson pobl sydd â chymhelliant uchel sydd eisiau gwneud gwahaniaeth o fewn cymuned trwy gynnig help a chefnogaeth i bobl pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Mae'n hanfodol bod gennych drwydded yrru gyfredol, yswiriant defnyddiwr busnes priodol a mynediad i'ch cerbyd eich hun.


Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Hydref 2025