Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheolwr Ardal Priffyrdd (dyddiad cau: 10/11/25)

£51,356 i £55,631 y flwyddyn. Mae gan yr uned Cynnal a Chadw Priffyrdd swydd wag ar gyfer Rheolwr Ardal Priffyrdd. Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth helaeth am gynnal a chadw priffyrdd a phrofiad rheoli i ymuno â'r tîm.

Teitl y swydd: Rheolwr Ardal Priffyrdd
Rhif y swydd: PL.0642-V3
Cyflog: £51,356 i £55,631 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Rheolwr Ardal Priffyrdd (PL.0642-V3) Disgrifiad swydd (PDF, 258 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0642-V3


Dyddiad cau: 11.45pm, 10 Tachwedd 2025


Mwy o wybodaeth

Mae'r uned Cynnal a Chadw Priffyrdd yn ceisio penodi Rheolwr Ardal Priffyrdd i gwmpasu Gorllewin Abertawe a Gŵyr. 

Mae'r Rheolwr Ardal yn gyfrifol am reoli cynnal a chadw arferol y Rhwydwaith Priffyrdd.

Byddwch yn rheoli tîm amlddisgyblaethol mawr, sy'n ymgymryd â'r holl archwiliadau cynnal a chadw a diogelwch arferol o'r rhwydwaith priffyrdd.
 
Bydd angen gwybodaeth helaeth am y Ddeddf Priffyrdd, cynnal a chadw priffyrdd adweithiol ac arferol, draenio, cynnal a chadw gaeaf, rheoli argyfwng, gwasanaeth y tu allan i oriau a rheoli depo. Yn ogystal â phrofiad o reoli tîm mawr.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd gysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid ac ymdrin â chwynion ac ymholiadau o wahanol ffynonellau. 

Mae angen gwybodaeth am gyfundrefnau Arolygu Diogelwch Priffyrdd, yn ogystal â phrofiad o fynychu'r llys i amddiffyn yr Awdurdod.

Mae cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd Cenedlaethol a Rhanbarthol hefyd yn rhan o'r rôl.

Byddwch yn gweithio'n helaeth gyda thimau eraill yn yr Awdurdod sy'n cyfrannu at gyflawni gwaith arfaethedig, digwyddiadau a phrosiectau eraill.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Bob Fenwick.      

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Hydref 2025