Cynghorydd Gwella Ysgolion (dyddiad cau: 01/12/25)
£66,724 - £70,009 (+3SPA) y flwyddyn. Gwahoddir ceisiadau am gynghorydd gwella ysgolion i gyfrannu at wella addysg ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg Abertawe.
Teitl y swydd: ED.66074-V2
Rhif swydd: Cynghorydd Gwella Ysgolion
Cyflog: £66,724 - £70,009 (+3SPA) y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynghorydd Gwella Ysgolion (ED.66074-V2) Disgrifiad swydd (PDF, 261 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y sywdd ED.66074-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 1 Rhagfyr 2025
Mwy o wybodaeth
Rydym am gefnogi arweinwyr ysgolion Abertawe i ysgogi gwelliant drwy:
- datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel;
- gweithio ar y cyd i godi safonau;
- darparu cwricwlwm i ganolbwyntio ar ragoriaeth, llesiant a thegwch; a
- cefnogi gwerthusiad cadarn o fewn system hunan-wella.
Rydym nawr yn ceisio recriwtio gweithiwr proffesiynol hynod lwyddiannus i ymuno â'n tîm ymroddedig o gynghorwyr gwella ysgolion. Dylai ymgeiswyr fod yn bennaeth / uwch arweinydd o ysgolion llwyddiannus a/neu gael llwyddiant diweddar fel gweithiwr proffesiynol gwella addysg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyflawni rôl ymgynghorydd gwella ysgolion ar gyfer ysgolion yn Abertawe a bydd yn gweithio'n agos gyda thimau ehangach ar draws awdurdodau lleol i:
- cyfrannu at gefnogaeth Cyngor Abertawe i arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethu, a
- gweithio'n effeithiol gyda Partneriaeth a phartneriaid cyflenwi allweddol eraill i ddatblygu cefnogaeth ar gyfer dysgu proffesiynol, gan gynnwys datblygu arweinyddiaeth ac adolygiad parhaus o'r cwricwlwm
Bydd y swydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2026 (neu cyn gynted â phosibl) ac mae'n swydd barhaol.
I drefnu trafodaeth anffurfiol am y swyddi, cysylltwch â:
David Thomas, Prif Gynghorydd Gwella Ysgolion ar 07968135550 neu drwy e-bost yn David.thomas1@swansea.gov.uk
Mae ffurflenni cais a chopïau o'r disgrifiad swydd a manyleb person ar gael gan https://swansea.gov.uk/jobs
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun 1 Rhagfyr 2025
Rhestr fer: 3 Rhagfyr 2025
Cyfweliadau: 12 Rhagfyr 2025
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
