Cydlynydd Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) (dyddiad cau: 12/11/25)
*Ymgeiswyr mewnol yn unig* £36,363 - £39,862 pro rata y flwyddyn.Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn deinamig a phrofiadol gydlynu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS). Cyfle secondiad, mae'r swydd hon dros dro am 1 flwyddyn (22 awr yr wythnos).
Teitl y swydd: Cydlynydd Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS)
Rhif y swydd: SS.73914
Cyflog: £36,363 - £39,862 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Cydlynydd Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe SS.73914 (PDF, 300 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd SS.73914
Dyddiad cau: 11.45pm, 12 Tachwedd 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gydlynu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS), sy'n bartneriaeth aml-sefydliadol sy'n goruchwylio ac yn cyfarwyddo'r ddarpariaeth ar gyfer oedolion sy'n dysgu ledled sir Abertawe. Bydd hyn yn cynnwys adrodd i'r Grŵp Strategol ALPS (sydd â chyfrifoldeb am osod cyfeiriad strategol dysgu oedolion a chymunedol yn Abertawe yn ogystal â monitro'r cwricwlwm ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws y bartneriaeth).
Bydd deiliad y swydd yn eistedd o fewn y gwasanaeth Dysgu Gydol Oes (LL) o fewn yr awdurdod lleol, sy'n darparu Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Abertawe.
Bydd deiliad y swydd yn cydlynu cyflawni ar draws y bartneriaeth yn erbyn Cynllun Strategol ALPS, er mwyn sicrhau bod y cyfeiriad ar gyfer ALPS yn unol â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, canllawiau Llywodraeth Cymru a Medr a gofynion Estyn.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding
