Ysgol Gymunedol Dylan Thomas: Swyddog Derbynfa a Reprograffeg
(dyddiad cau: 21 Tachwedd 2025 am 3pm). Gradd 3 (SCP 4) £25,185 Pro Rata y flwyddyn - Cyflog cychwynnol gwirioneddol £21,711. 37 awr yr wythnos - 39 wythnos y flwyddyn (Tymor yn unig). Llun-Iau: 8.00am-4.00pm Dydd Gwener: 8.00am-3.30pm (cinio 30 munud). I ddechrau Ionawr 2026 neu yn gynt lle bo'n bosibl.
Ysgol Gymunedol Dylan Thomas
Stryd John
Cocyd
Abertawe
SA2 0FR
Ffôn: 01792 610300
Mae Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn ysgol hapus a diogel lle mae anghenion pob disgybl yn cael eu darparu a'u hystyried. Mae'r holl staff yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod hyn yn parhau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cynnig cefnogaeth ac adnoddau llawn yr ysgol i ddatblygu'n broffesiynol mewn amgylchedd hynod gefnogol gyda chydweithwyr ysbrydoledig a chefnogol.
Yn ein Arolygiad ym mis Chwefror 2024, dywedodd Estyn "Mae staff yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn cynnig gofal, cymorth ac arweiniad o ansawdd uchel cyson i ddisgyblion. Mae gan yr ysgol naws deuluol gynhwysol ac mae perthnasoedd cryf rhwng disgyblion a staff.
Mae llywodraethwyr yn ceisio penodi rhywun sydd â phersonoliaeth groesawgar a sgiliau rhyngbersonol rhagorol i fod y pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr â'r ysgol.
Cyfrifoldebau allweddol y rôl hon fydd sicrhau bod derbynfa yr ysgol yn rhedeg yn llyfn, cyfarch ymwelwyr, gweithredu'r switsfwrdd a delio ag ystod eang o ymholiadau gan staff, rhieni, disgyblion ac asiantaethau allanol.
Bydd angen gwybodaeth gadarn am becynnau Microsoft, yn enwedig Word ac Excel. Byddai hyfedredd mewn defnyddio siwt adobe yn fanteisiol ond byddai parodrwydd i ddysgu yn hanfodol.
Bydd disgwyl i chi ddangos sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol i gefnogi gwaith athrawon, dysgu plant ac i hyrwyddo'r ysgol yn weithredol drwy ddarparu adnoddau amlgyfrwng o ansawdd uchel fel taflenni, llyfrau gwaith a phosteri.
Yn ogystal, fel rhan o dîm gweinyddol yr ysgol, bydd disgwyl i chi ymgymryd â sgiliau gweinyddol arferol fel ffeilio, diweddaru cofnodion, lletygarwch a darparu cymorth i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.
Mae'r penodiad hwn dros dro hyd at Awst 31, 2026, yn y lle cyntaf gyda'r bwriad o ddod yn barhaol.
Mae disgrifiad llawn, manyleb person a ffurflen gais ar gael ar e-teach www.eteach.com neu gan yr ysgol e-mail@dylanthomas.swansea.sch.uk
Dyddiad cau: 21 Tachwedd 2025 am 3pm
Mae Ysgol Gymunedol Dylan Thomas wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
