Cynghorydd Hawliau Lles (dyddiad cau: 27/11/25)
£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau yn cael cyfle cyffrous i Gynghorydd Hawliau Lles ymuno â'n tîm brwdfrydig sy'n cefnogi pobl a chymunedau Abertawe. Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r system budd-daliadau lles ac mae'n gyfarwydd â deddfwriaeth Nawdd Cymdeithasol a Chredyd Treth.
Teitl y swydd: Cynghorydd Hawliau Lles
Rhif swydd: SS.64670-V1
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynghorydd Hawliau Lles (SS.64670-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 301 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.64670-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 27 Tachwedd 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r tîm Hawliau Lles a Chynhwysiant Ariannol yn darparu gwasanaeth strategol "ail haen" sy'n arbenigo mewn cyfraith budd-daliadau lles, gan gefnogi'r rhai sy'n darparu gwasanaeth rheng flaen sy'n gweithio gyda hawlwyr gyda'u materion budd-daliadau. Mae gennym dîm o Gynghorwyr Hawliau Lles arbenigol a Swyddogion Cynhwysiant Ariannol, sy'n darparu gwasanaeth heriol ond gwerth chweil i gefnogi pobl a chymunedau Abertawe.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac empathig i ddehongli a llywio cyfraith Nawdd Cymdeithasol a Chredyd Treth. Byddwch yn gweithio mewn ffordd gydweithredol a hyblyg i:
- Darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol i sefydliadau statudol a'r trydydd sector, gan helpu unigolion gyda hawliadau am fudd-daliadau yn ogystal â materion budd-daliadau cymhleth trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein;
- Paratoi dadleuon cyfreithiol, casglu tystiolaeth a chyflwyno achosion mewn gwrandawiadau apêl haen gyntaf; a phan fo angen mewn tribiwnlysoedd uwch;
- Cynllunio, paratoi a chyflwyno cyrsiau / sesiynau hyfforddi sy'n cwmpasu ystod eang o fudd-daliadau lles;
- Datblygu taflenni gwybodaeth a chyhoeddiadau sy'n hawdd eu darllen sy'n cwmpasu meysydd cyfraith budd-daliadau lles cymhleth;
- Cynllunio, paratoi a chyflawni ymgyrchoedd yn ôl yr angen.
- Ymateb i ymgynghoriadau
- Darparu cyngor polisi
Rydym yn chwilio am rywun sydd â chymhelliant uchel, sy'n gallu gweithio'n annibynnol yn ogystal â rhan o dîm, yn adeiladu perthnasoedd cadarnhaol ac yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ar faterion cymhleth. Mae'r gallu i gymhwyso gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth o'r system hawliau lles yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig manteision gwych gan gynnwys pensiwn rhagorol, gwyliau cystadleuol, gostyngiadau staff a threfniadau gweithio hyblyg. Fel rhan o Gyngor Abertawe, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein cenhadaeth i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus gorau i bobl Abertawe.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Jane Storer drwy e-bost yn jane.storer@swansea.gov.uk neu Nick Jones yn nick.jones2@swansea.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
