Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cymorth Gwasanaethau (dyddiad cau: 04/12/25)

£32,061 - £35,412 y flwyddyn. Mae'r tîm comisiynu yn chwilio am berson arloesol sy'n awyddus i ddysgu a gwneud gwahaniaeth i ymuno fel Swyddog Gwasanaethau Cymorth Comisiynu, lle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu cymorth o ansawdd uchel i sicrhau comisiynu gwasanaeth effeithiol. Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, rhagweithiol gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol i helpu i yrru canlyniadau cadarnhaol i'n cymunedau.

Teitl y swydd: Swyddog Cymorth Gwasanaethau
Rhif y swydd: SS.69644
Cyflog: £32,061 - £35,412 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cymorth Gwasanaethau (SS.69644) Disgrifiad swydd (PDF, 294 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.69644

Dyddiad cau: 11.45pm, 4 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Rydym yn chwilio am Swyddog Gwasanaethau Cymorth Comisiynu i ymuno â'n tîm ymroddedig, gan ddarparu cymorth hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu comisiynu'n effeithiol ac yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Cynorthwyo gyda datblygu, monitro ac adolygu gwasanaethau a gomisiynwyd.
  • Darparu cymorth gweinyddol a dadansoddol i brosiectau comisiynu.
  • Gweithio ar y cyd â thimau mewnol a phartneriaid allanol i gyflawni amcanion gwasanaeth.

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig:

  • Amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol.
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa.
  • Cyfle i gyfrannu at wasanaethau sy'n gwella bywydau ar draws ein cymunedau.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Tachwedd 2025