Swyddog Gorfodi Sifil (dyddiad cau: 09/12/25)
£26,403 - £27,254 y flwyddyn. (Ynghyd â gwelliannau).
Teitl y swydd: Swyddog Gorfodi Sifil
Rhif y swydd: PL.62753
Cyflog: £26,403 - £27,254 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Gorfodi Sifil (PL.62753) Disgrifiad Swydd (PDF, 295 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.62753
Dyddiad cau: 11.45pm, 9 Rhagfyr 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae gan Gyngor Abertawe y pwerau i orfodi rheoliadau parcio ledled ardal Abertawe. Fel Swyddog Gorfodi Sifil, byddwch yn patrolio'r strydoedd a'r meysydd parcio mewn gwisg, i adnabod cerbydau sydd wedi'u parcio yn groes i'r rheoliadau parcio. Byddwch yn cario cyfrifiadur llaw, sy'n cynhyrchu Hysbysiadau Tâl Cosb.
Rhaid i chi fod yn llawn cymhelliant, yn gwbl gymwys ac yn hunanhyderus. Mae angen trwydded yrru lawn ar gyfer y rôl hon. Rhaid i chi allu gweithio ar eich pen eich hun a gweithio'n dda o fewn tîm, bod yn gorfforol heini ac yn gallu cerdded o leiaf 5 -10 milltir y dydd ym mhob tywydd.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
