Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Craigfelen: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg

(dyddiad cau: 19 Rhagfyr 2025 am 12pm). Rhan amser: 18 awr yr wythnos am 40 wythnos. £26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn (Gradd 5). (Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad tymor yn unig os yw dechrau'r gyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd)

Ysgol Gynradd Craigfelen
Rheolwr Gofal Plant - Mrs Nicola Tasker
Ebost: taskern2@hwbcymru.net
Ffôn: 01792 841164

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Dechrau'n Deg Craigfelen. 

Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cymorth i blant cyn-ysgol a'u teuluoedd sydd wedi'u targedu, sy'n byw mewn ardaloedd penodol o amddifadedd. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.

Rydym yn edrych i benodi gweithiwr gofal plant i gefnogi'r Rheolwr a'r Dirprwy Dechrau'n Deg i ddarparu darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yn ein lleoliad Dechrau'n Deg. Bydd arnoch angen cymwysterau perthnasol, sgiliau llythrennedd o safon uchel a phrofiad blaenorol o ddarparu darpariaeth gofal plant i blant o dan 3 oed. Bydd angen i chi hefyd weithio'n effeithiol fel rhan o dîm a dangos brwdfrydedd ac angerdd dros gefnogi plant a'u teuluoedd fel rhan o Dechrau'n Deg ac ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned. 

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u llenwi i gyfeiriad yr ysgol, naill ai'n bersonol neu drwy'r post. Os ydych chi'n dychwelyd drwy'r post, gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi'r tâl post cywir gan y gallai postio anghywir olygu nad yw'ch cais yn ein cyrraedd.

Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 12.00pm, dydd Gwener 19 Rhagfyr

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Tachwedd 2025