Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Bryn Tawe: Addysg Gorfforol Dros Dro

(Dyddiad cau: 09/12/25 am 12pm. Prif Raddfa Gyflog. Contract llawn amser dros dro, ystyrir yn barhaol i ymgeiswyr addas ac i ddechrau cyn gynted â phosibl ar ôl hanner tymor Chwefror 2026 (23/02/2026)

Rydym yn chwilio am athro/awes ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ymuno ag adran lwyddiannus. Rydym yn chwilio am athro i ddarparu profiadau cyfoethog Addysg Gorfforol i ddisgyblion yr ysgol. Bydd cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu ar draws pob cyfnod allweddol, i ferched yn bennaf gan gyfrannu at gyrsiau TGAU a Safon Uwch Addysg Gorfforol a chyrsiau Chwaraeon galwedigaethol. 

Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â'r ffocws ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â'r medrau hanfodol ar gyfer sicrhau dyfodol llwyddiannus.

Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau'r ysgol yn ogystal â sicrhau'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma. 

Rydym yn gallu cynnig:

  • y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar.
  • y cyfle i weithio o fewn Adran Addysg Gorfforol a MDaPh Iechyd a Lles, sydd yn ymrwymedig i ddatblygu creadigrwydd addysgu a chydweithio'n agos er mwyn sicrhau llwyddiant a lles pob disgybl o bob gallu. 
  • y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol, proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion. 
  • y potensial ar gyfer datblygiad gyrfa pellach o fewn yr adran a'r ysgol. 

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 9fed o Ragfyr 2025 am 12y.h
Cyfweliadau: I'w cadarnhau
Graddfa cyflog: Prif raddfa gyflog

cytundeb llawn amser dros dro, ystyrir parhaol i ymgeiswyr addas ac i ddechrau cyn gynted ȃ phosib ar ôl yr hanner tymor Chwefror 2026 (23/02/2026)

Am ffurflen gais neu fanylion pellach, cysylltwch â Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol neu Miss Lynwen Matthews ar 01792560600 neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net / matthewsl64@hwbcymru.net

Bydd angen dychwelyd y ffurflen gais drwy e-bost yn uniongyrchol at Mrs Eirian Leonard, Rheolwraig Busnes yr ysgol erbyn y dyddiad cau uchod.  

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Tachwedd 2025