Swyddog Monitro Contractau (dyddiad cau: 15/12/25)
£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Swyddog Monitro Contractau Dros Dro (hyd at 31 Mawrth 2027) - Tîm Comisiynu Gwasanaethau i Oedolion - Gwasanaethau Grant Cymorth Tai a gomisiynwyd. Mae'r rhaglen grant yn darparu ystod o fodelau cymorth sy'n gysylltiedig â thai sy'n anelu at gyfrannu at wneud digartrefedd yn brin, yn fyr ac yn ddi-ailadrodd. *Ymgeiswyr mewnol yn unig*
Teitl y swydd: Swyddog Monitro Contractau
Rhif y swydd: SS.68406
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Monitro Contractau (SS.68406) Disgrifiad Swydd (PDF, 282 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.68406
Dyddiad cau: 11.45pm, 15 Rhagfyr 2025
Rhagor o wybodaeth
*Ymgeiswyr mewnol yn unig*
Mae rôl ddiddorol ac amrywiol wedi codi o fewn adran brysur y Grant Cymorth Tai (HSG) o'r Tîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.
Mae'r swydd wag hon yn dros dro hyd at 31 Mawrth 2027 ac efallai y bydd ar gael fel secondiad.
Mae'r Tîm HSG yn comisiynu ystod o wasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai gan ystod amrywiol o sefydliadau i helpu pobl sy'n agored i niwed i ddatblygu a chynnal y sgiliau a'r hyder angenrheidiol i fyw mor annibynnol â phosibl ac atal digartrefedd.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso perfformiad gwasanaethau dan gontract, a chanlyniadau i bobl sy'n eu defnyddio. Byddant yn gweithio ar y cyd ag asiantaethau statudol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sefydliadau'r trydydd sector a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau i gyd-gynhyrchu gwelliannau gwasanaethau.
Byddant yn cyfrannu at ddatblygu cynlluniau strategol a'u gweithredu, ac yn cefnogi pob agwedd ar weithgarwch comisiynu, gan gynnwys cydymffurfio â chanllawiau ac amodau Grant Cymorth Cysylltiedig â Thai Llywodraeth Cymru.
Bydd sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol yn ogystal â'r gallu i gyfrannu at ddull tîm.
Byddai profiad o wasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai, gwybodaeth am egwyddorion a phrosesau comisiynu, ac o faterion digartrefedd yn fanteisiol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
