Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cyflogres a Phensiynau Prentis (dyddiad cau: 16/12/25)

blwyddyn 1 - 60% o Radd 5 (scp 7), blwyddyn 2 - 75% o Radd 5 (scp 7). Cyflog cyfredol 5 (scp 7) yw £26,403 y flwyddyn. Cyfle cyffrous i ymuno â'r tîm cyflogres fel Swyddog Cyflogres a Phensiynau Pretisiaid.

Teitl y swydd: Prentis Swyddog Cyflogres a Phensiynau
Rhif y swydd: CS.73826
Cyflog: blwyddyn 1 - 60% o Radd 5 (scp 7), blwyddyn 2 - 75% o Radd 5 (scp 7)
Disgrifiad swydd: Swyddog Cyflogres a Phensiynau Prentis (CS.73826) Disgrifiad Swydd (PDF, 294 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73826

Dyddiad cau: 11.45pm, 16 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Tîm Cyflogres y Ganolfan Wasanaeth i ddod yn Swyddog Cyflogres a Phensiynau Pretisiaid.

Byddwch yn gyfrifol, o dan oruchwyliaeth y Goruchwyliwr Cyflogres a'r Rheolwr Cyflogres ac aelodau'r tîm i gynorthwyo i gynhyrchu'r gwahanol gyflogres ar gyfer Dinas a Sir Abertawe drwy'r system Oracle, bydd y rôl yn cynnwys cofnodi a chadw cofnodion gweithwyr i sicrhau bod yr holl newidiadau ac ychwanegiadau at gofnodion yn cael eu hawdurdodi a'u talu'n briodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Statudol yr Awdurdod.

Bydd rhan fawr o'r rôl hefyd yn cynorthwyo gyda'r ffurflenni talu pensiynau, gan weithio'n agos gyda'r adran pensiynau i ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen a chynorthwyo i glirio ôl-groniad.

Mae'r rôl hon mewn amgylchedd prysur cyflym iawn a byddai'n addas i ymgeisydd sy'n gweithio'n dda o dan bwysau ac i ddyddiadau cau llym.

Mae'r rôl yn gweithio ystwyth a bydd yn cynnwys cymysgedd o weithio gartref a phresenoldeb swyddfa.

Byddwch yn cwblhau cymhwyster Lefel 3 gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Rhagfyr 2025