Syrfëwr Cynorthwyol (dyddiad cau: 17/12/25)
£32,061 - £35,412 y flwyddyn. Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa syrfeydd? Rydym yn chwilio am Syrfëwr Cynorthwyol llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Eiddo deinamig.
Teitl y swydd: Syrfëwr Cynorthwyol
Rhif y swydd: PL.66017-V1
Cyflog: £32,061 - £35,412 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Syrfëwr Cynorthwyol (PL.66017-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 285 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.66017-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 17 Rhagfyr 2025
Rhagor o wybodaeth
Ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa syrfeydd? Rydym yn chwilio am Syrfëwr Cynorthwyol llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Eiddo deinamig.
Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â Syrfewyr Siartredig profiadol, gan ennill profiad ymarferol gyda thrafodion eiddo masnachol a rheoli ystadau. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth reoli portffolio eiddo amrywiol y Cyngor, gan sicrhau ei fod yn cael ei gynnal i'r safonau uchaf ac yn cyd-fynd â'n Cynllun Rheoli Asedau. Os ydych chi'n angerddol am eiddo ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd cefnogol a blaengar, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
