Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (dyddiad cau: 23/12/25)

£32,061 - £35,412 pro rata y flwyddyn. Rydym yn awyddus i recriwtio Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol i swydd Barhaol Rhan-amser (18.5 awr) o fewn y Tîm Diogelu Oedolion, tîm deinamig prysur.

Teitl y swydd: Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.9447-V2
Cyflog: £32,061 - £35,412 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (SS.9447-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 298 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.9447-V2

Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r ffocws ar ddarparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad mewn ymateb i dderbyn Hysbysiadau Diogelu'r Cyhoedd, cefnogi gyda rheoli cyfarfodydd Ymgais Sylweddol i Hunanladdiad, cynrychioli'r Tîm Diogelu Oedolion mewn amrywiaeth o gyfarfodydd diogelu amlasiantaethol a chefnogi'r Cydlynwyr Arweiniol gydag ymholiadau fel rhan o 126 o ymholiadau, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Bydd ymgeiswyr yn gweithio ar y cyd ag unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i weithredu dull ymyrraeth gynnar ac atal. 

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod â sgiliau cyfathrebu ac ysgrifenedig da a gweithio ar y cyd â'r Cydlynwyr Arweiniol yn y tîm i sicrhau bod dyletswyddau diogelu statudol ac anstatudol yn cael eu gweithredu. Mae ymrwymiad i hyrwyddo urddas, diogelwch a pharch at oedolion agored i niwed yn hanfodol.  

Byddech yn rhan o dîm bach, wedi'i gefnogi'n dda, gyda pherthnasoedd gwaith gwych ac enw da gydag Asiantaethau Partner.  Mae'r Tîm Diogelu Oedolion yn mwynhau cyfarfodydd dal i fyny wythnosol, gan sicrhau bod eich lles bob amser ar frig yr agenda. Mae'r Tîm Diogelu Oedolion yn cynnal sesiynau grŵp cymheiriaid rheolaidd i drafod achosion a thrafod rhesymeg, er mwyn sicrhau ymagwedd symlach at y gwaith diogelu sy'n cael ei wneud. Mae hyn hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu ac ymarfer myfyriol.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Rhagfyr 2025