Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cyflogres a Phensiynau (dyddiad cau: 18/12/25)

£26,403 - £27,254 y flwyddyn. Mae hon yn swydd amser llawn, dros dro, ar gael tan 30 Medi 2026.

Teitl y swydd: Swyddog Cyflogres a Phensiynau
Rhif y swydd: CS.73423
Cyflog: £26,403 - £27,254 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cyflogres a Phensiynau (CS.73423) Disgrifiad Swydd (PDF, 299 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73423

Dyddiad cau: 11.45pm, 18 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r unigolyn cywir chwarae rôl bwysig yn yr Adran Gyflogres. Byddwch yn gyfrifol am weithio ar ffurflenni talu pensiwn yn ogystal ag unrhyw dasgau cyflogres eraill.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag aelodau eraill y tîm cyflogres a'r adran bensiynau; Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o bresenoldeb swyddfa a gweithio gartref.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Rhagfyr 2025